Peter Whittingham wedi marw ar ôl syrthio mewn tafarn
- Cyhoeddwyd
Bu farw cyn-gapten Caerdydd, Peter Whittingham, ar ôl cwympo i lawr grisiau mewn tafarn, mae cwest wedi clywed.
Dioddefodd Whittingham, 35, anaf trawmatig i'w ben yn nhafarn y Park Hotel yn Y Barri ar 7 Mawrth y llynedd.
Bu farw yn yr ysbyty 11 diwrnod yn ddiweddarach.
Daeth y crwner i'r casgliad fod marwolaeth Whittingham yn un ddamweiniol.
'Chwarae cwffio'
Ddydd Mawrth, clywodd llys y crwner ym Mhontypridd fod cyn-chwaraewr dan-21 Lloegr wedi mynd i yfed gyda brawd ei wraig a ffrind i wylio gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad.
Dywedodd gwraig Whittingham a mam i'w ddau fab ifanc, Amanda Whittingham, wrth y gwrandawiad iddo adael eu cartref tua 15:00 heb fwyta ers brecwast gan ei fod mewn "rhuthr" i ddal y gêm.
Dywedodd brawd-yng-nghyfraith Whittingham, Robert Williams, fod y pâr a'u ffrind Ryan Taylor wedi bod yn yfed lager, chwerw, a thecila yn ystod y prynhawn a'r nos.
Ond dywedodd fod y noson yn "blacowt", ac nad oedd ganddo atgof o'r cyn-bêl-droediwr yn cwympo.
Mewn datganiad a ddarllenwyd i'r gwrandawiad, dywedodd Mr Williams: "Byddwn i'n dweud ein bod i gyd wedi meddwi erbyn y nos. Ni allaf gofio dim llawer o'r hyn a ddigwyddodd."
Dywedodd Mr Williams iddo ddod o hyd i Whittingham yn gorwedd ar waelod y grisiau y tu hwnt i ddrws tân yng nghoridor y dafarn gyda'i wyneb i'r ochr, a cheisiodd ei godi i fyny i ddod o hyd i'w gorff yn "llipa".
Fe wnaeth ail ddatganiad ar ôl i'r heddlu ddangos teledu cylch cyfyng iddo o goridor y dafarn.
Cadarnhaodd ei fod yn cael ei weld yn "chwarae o gwmpas gyda Pete a Ryan" ond nad oedd ganddo atgof o'r digwyddiad o hyd.
Dywedodd Mr Taylor nad oedd ganddo unrhyw gof o "chwarae cwffio" na Whittingham yn cwympo cyn iddo sylwi arno ar y llawr.
Dywedodd: "Cerddais draw ato i gynnig fy llaw, gan feddwl y byddai'n ei gymryd a byddwn yn ei helpu yn ôl i fyny at ei draed.
"Pan edrychais yn agosach ar Peter, roeddwn i'n gallu gweld nad oedd yn symud ac roedd rhywbeth o'i le."
Cafodd Whittingham ei gludo i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd, ond dirywiodd ei gyflwr a bu farw ar 18 Mawrth, 2020.
Dywedodd y crwner Graeme Hughes fod Whittingham wedi "yfed swm o alcohol sydd yn debygol o effeithio ar ei ymarweddiad a'i bwyll" cyn iddo gwympo.
"Yn ystod cyfnod o chwarae o gwmpas gyda ffrind a pherthynas roedd yn ymddangos ei fod wedi colli ei gydbwysedd, teithio drwodd neu achosi drws tân i agor, cwympo, ac wrth iddo wneud hynny mae ei ben wedi dod i gysylltiad â'r grisiau," meddai.
"Mae hyn wedi arwain at anaf trawmatig i'r pen."
Roedd Whittingham yn byw gyda'i wraig yn Ninas Powys, Bro Morgannwg, a'u mab a anwyd yn 2018.
Roedd y cwpl yn disgwyl eu hail blentyn pan fu farw Whittingham, gyda'u mab ieuengaf wedi'i eni ddeufis ar ôl y digwyddiad ym mis Mai 2020.
Fe ymunodd â'r Adar Gleision yn 2007 a mynd ymlaen i fod yn un o arwyr y clwb gan wneud 459 o ymddangosiadau a sgorio 98 gôl cyn gadael yn 2017.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020