Gofalwr wedi ymweld â phobl fregus er amheuon Covid

  • Cyhoeddwyd
Gofalwr yn gafael yn llaw dynesFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd gweithiwr gofal wedi rhoi bywydau 22 o bobl fregus mewn perygl trwy gynnal ymweliadau cartref er gwaethaf amheuon ei bod yn dioddef o Covid-19 ar y pryd.

Clywodd tribiwnlys Safonau Gofal bod Samantha Gould wedi gwneud ymweliadau cartref ym mis Mehefin er bod ei meddyg teulu wedi'i chynghori i hunan-ynysu a chael prawf Covid.

Cafodd ei hatal o'i gwaith am 18 mis mewn gwrandawiad fis diwethaf, ond tra'n apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw dywedodd Ms Gould iddi gael canlyniad "negyddol ar lafar" i'w phrawf, cyn cynnal yr ymweliadau cartref ar ran cwmni gofal yng Nghaerdydd.

Mewn dyfarniad a gyhoeddwyd yr wythnos hon, gwrthodwyd ei hapêl gan y Barnwr Faridah Eden.

Roedd Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) wedi gwneud gorchymyn dros dro i atal Ms Gould o'i gwaith ym mis Awst y llynedd, pan oedd yn gweithio i 1st Grade Care yng Nghaerdydd.

Dywedodd y corff rheoleiddio bod Ms Gould wedi dangos "difaterwch di-hid tuag at iechyd a lles y rhai oedd yn ei gofal".

Ond dywedodd Ms Gould wrth y tribiwnlys ei bod wedi cadw pellter cymdeithasol yn ystod ei hymweliadau, a'i bod yn gwisgo ffedog, menyg a gorchudd ar ei hwyneb.

Dywedodd fod cael ei gwahardd wedi bod yn brofiad "ingol" iddi.

'Torri rheolau a pheryglu'r cyhoedd'

Wrth wrthod ei hapêl, dywedodd y barnwr fod y cyhuddiadau yn ei herbyn yn rhai "difrifol iawn", a'i bod yn gweithio gyda "phobl fregus iawn a fyddai mewn perygl mawr pe baen nhw'n cael eu heintio gyda Covid-19".

Ychwanegodd fod tystiolaeth gref bod Ms Gould wedi "peryglu'r cyhoedd" a'i bod "yn fwriadol wedi torri rheolau a oedd yno i ddiogelu'r bobl fregus yr oedd yn gweithio â nhw".

Honnir hefyd bod Ms Gould wedi ceisio hawlio taliad am waith, a wnaed gan aelod o staff oedd heb awdurdod i'w wneud, a'i bod wedi camarwain ei chyflogwr newydd, Care Cymru, ynglŷn â'r ymchwiliad i'w hymddygiad.

Pan ffoniodd swyddog o GCC Care Cymru ym mis Medi, Ms Gould atebodd y ffôn, a dywedodd nad oedd hi'n ymwybodol ei bod hi wedi cael ei gwahardd, a'i bod wedi bod yn "agored" gyda'i chyflogwr newydd am yr ymchwiliad.

Serch hynny, ddyddiau'n ddiweddarach, dywedodd aelod o staff Care Cymru wrth GCC nad oeddynt yn ymwybodol o'r ymchwiliad, gan arwain GCC i ystyried ymchwiliad i weld a oedd Ms Gould yn bod yn onest gyda'r cwmni ai peidio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y penderfyniad i wahardd Ms Gould o'r gofrestr gofal cymdeithasol yn gymesur â'r cyhuddiadau, yn ôl y Barnwr Eden

Mewn gwrandawiad ym mis Chwefror, honnodd Ms Gould ei bod wedi "derbyn yr alwad ffôn yn rhoi'r canlyniad negyddol" i'w phrawf Covid ym mis Mehefin, cyn cychwyn allan ar gyfer ei galwad cyntaf o'r diwrnod.

Gwadodd ei bod wedi cuddio'r ffaith iddi weithio tra'r oedd hi wedi cael cyngor i hunan-ynysu, a dywedodd ei bod yn teimlo fel ei bod yn cael ei "setio i fyny".

Dywedodd Ms Gould hefyd nad oedd hi wedi dweud wrth Care Cymru am yr ymchwiliad am nad oedd hi'n credu y byddai "wedi mynd mor bell â hyn".

Ond cyfaddefodd ei bod hi'n "anghywir" pan ddywedodd wrth GCC ei bod wedi eu hysbysu o'r ymchwiliad.

Dywedodd uwch swyddog gyda GCC wrth y tribiwnlys nad oeddynt yn derbyn honiad Ms Gould iddi gael gwybod ar lafar bod canlyniad ei phrawf yn negyddol, am y rheswm nad oedd hi wedi dweud hynny wrth ei chydweithwyr yn 1st Grade Care.

'Effaith ar iechyd meddwl'

Ar ran GCC, dywedodd Graham Miles wrth y tribiwnlys fod ymddygiad Ms Gould wedi rhoi chwe aelod o staff a 22 o bobl fregus mewn perygl.

Yn ei dyfarniad, dywedodd y Barnwr Eden ei bod yn poeni nad oedd Ms Gould "wedi cydnabod iddi roi unrhyw un mewn perygl", a bod hynny'n "cryfhau'r cyhuddiadau".

Daeth y barnwr hefyd i'r canlyniad bod "tystiolaeth gref i gefnogi'r cyhuddiad fod Ms Gould wedi ymddwyn yn anonest".

Roedd Ms Gould wedi dweud wrth y tribiwnlys fod y gwaharddiad dros dro o'i gwaith yn cael effaith ar ei hiechyd meddwl.

Ond dywedodd y Barnwr Eden: "Rydym yn deall fod yr ymchwiliad wedi bod yn pwyso ar yr apelydd.

"Serch hynny, mae'n rhaid ystyried bregusrwydd y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth y byddai'r apelydd yn eu cefnogi, a difrifoldeb y cyhuddiadau.

"O bwyso a mesur yr ystyriaethau hyn, rydym yn credu ei bod yn gymesur i'r apelydd gael ei gwahardd rhag gweithio mewn swyddi cofrestredig."

Mae disgwyl i achos llawn ynglŷn ag addasrwydd Ms Gould i weithio yn y maes gael ei gynnal yn y dyfodol.