Ymchwiliad wedi i filwr gael ei ladd yng Nghastellmartin
- Cyhoeddwyd
Mae milwr wedi cael ei ladd yn ystod ymarferiad tanio byw ar faes ymarfer Castellmartin yn Sir Benfro.
Mae'r BBC wedi cael ar ddeall fod y milwr yn Sarjant gyda'r Gwarchodlu Cymreig.
Dyw'r Weinyddiaeth Amddiffyn ddim wedi cyhoeddi enw'r milwr, ond maen nhw wedi cadarnhau ei fod e wedi cael ei ladd mewn digwyddiad yng Nghastellmartin ddydd Iau.
Maen nhw'n dweud nad yw hi'n briodol i wneud sylw pellach am fod ymchwiliad ar y gweill, ond mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r milwr gafodd ei ladd.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Heddlu Dyfed-Powys, yr Heddlu Milwrol Brenhinol a gan y gangen sydd yn ymchwilio i ddamweiniau ym maes amddiffyn.
Dyma'r pedwerydd aelod o'r lluoedd arfog i farw yng Nghastellmartin yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
Cafodd dau aelod o Gatrawd Brenhinol y Tanciau - Matthew Hatfield a Darren Neilson eu lladd mewn ffrwydrad yn 2017.
Yn 2012, lladdwyd milwr o'r enw Michael Maguire yn ddamweiniol yn ystod ymarferiad tanio byw ar y maes ymarfer yn Ne Sir Benfro.