Mwy o aflonyddu rhywiol ar-lein yn y gweithle

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llun generic o fenyw yn ei gwaithFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynnydd wedi bod mewn achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein yn y gweithle yn ystod y pandemig, yn ôl Cymorth i Ferched Cymru.

Yn hytrach na bod gweithio o gartref wedi cael gwared â'r broblem, mae wedi dod i'r amlwg mewn ffordd wahanol.

Ond mae menywod wedi sôn llai wrth yr elusen am achosion o gyffwrdd corfforol diangen.

Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i fynd i'r afael â'r 'mannau llwyd' lle mae Cymorth i Ferched Cymru'n honni nad yw ymddygiad amhriodol yn cael ei herio.

Mae'n cael ei gefnogi gan y ddigrifwraig Kiri Pritchard McLean, sydd hefyd yn creu cynlluniau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol o fewn y sîn gomedi.

'Torri gyrfaoedd yn fyr'

"Mae cymaint o achosion ofnadwy a thrist," meddai, gan gofio straeon o hyrwyddwr gwrywaidd yn trefnu gigs i fenywod ac ar y funud olaf yn esbonio ei fod yn golygu rhannu ystafell gydag ef.

"Mae'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniad - ydy hynny'n iawn? Ydw i'n teimlo'n ddiogel? Mae gyrfa pobl yn y fantol yn aml os nad ydyn nhw'n fodlon gwneud pethau sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus.

"Roedd un hyrwyddwr a roddodd gyfres o gigs i fenywod - yna dechreuodd anfon negeseuon testun rhywiol iawn atynt. Pan wnaethon nhw gwyno, tynnwyd eu gigs allan o'r dyddiadur ac maen nhw'n cael eu rhoi ar 'restr ddu' a dydyn nhw byth yn cael gigs eto.

Ffynhonnell y llun, Kiri Pritchard-Mclean a Nina Gilligan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r aflonyddu'n amrywio o fân ymosodiadau i droseddau, medd Kiri Pritchard-Mclean

"Mae comedi yn ddiwydiant o unigolion sy'n gweithredu mewn 'economi gig' anodd iawn, a dyna pam ei fod yn fwy tueddol o gael ei ecsbloetio."

Mae hi a chomedïwraig arall, Nina Gilligan, nawr yn sefydlu gwasanaeth adnoddau dynol Get Off i theatrau neu leoliadau comedi er mwyn darparu cymorth ac i amddiffyn gweithwyr a lleoliadau.

Mae arolwg gan Cymorth i Ferched Cymru yn dangos bod llawer o fenywod yn ofni y bydd adrodd achosion o aflonyddu naill ai'n arwain at ddial, neu y bydd yr ymddygiad yn cael ei ddiystyru fel "banter".

"Yr ymateb y mae llawer o fenywod yn ei gael pan fyddant yn tynnu sylw at yr ymddygiad yma ydi naill ai casineb neu gaslighting, lle mae pobl yn dweud wrthynt nad ydynt yn gwybod sut i gymryd jôc, "dim ond banter" ydyw ac yna mae'r cylch yn parhau," meddai Charlotte Archibold, o'r elusen.

"Ers rhy hir o lawer dyw ein cymdeithas ni ddim wedi cymryd aflonyddu rhywiol o ddifrif a'r realiti yw bod effeithiau'r peth yn bellgyrhaeddol ac yn ddinistriol.

"Rydym wedi clywed gan fenywod sydd wedi colli eu swyddi, neu sydd wedi teimlo mai gadael eu swydd yw'r unig ddewis."

'Mae amddiffyniad i'r rhai sy'n gwneud cwyn'

Mae Sarah Chilton yn gyfreithiwr cyflogaeth. Dywedodd fod pobl yn aml yn ansicr a yw sôn am yr aflonyddu yn werth peryglu gyrfa.

"Mae unrhyw un sy'n gwneud cwyn yn cael ei warchod gan y gyfraith rhag erledigaeth - hynny yw, dial ar sail eu bod wedi gwneud cwyn.

"Ond fydd pawb ddim yn ymwybodol bod ganddynt yr amddiffyniad hwnnw - a hyd yn oed gyda'r amddiffyniad hwnnw, gwelwn sefyllfaoedd lle mae pobl yn dal i fod yn destun dial am wneud cwyn aflonyddu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Gwnaeth i fi deimlo'n ofnus'

24 oed oedd Johanna - nid ei henw cywir - pan gafodd swydd mewn bwyty ble mae'n dweud bod rheolwr wedi ei thargedu "fwy neu lai o'r diwrnod cynta'".

Roedd yn trefnu shifftiau fel bod rhaid iddi weithio ar ben ei hun gydag o. "Byddai'n sefyll yn agos atai a gwnaeth i fi deimlo'n ofnus," meddai.

Gwaethygodd y sefyllfa wrth iddo gael ffyrdd o'i hynysu'n amlach a "gofyn cwestiynau amhriodol iawn i fi am fy nillad isaf a... siarad yn agored am ei fywyd rhywiol.

"Roedd e'n mwynhau gweld pa mor anghyffyrddus roedd y cwestiynau hyn yn fy ngwneud i deimlo.

"Achos mod i'n newydd a fe oedd y rheolwr, do'n i ddim yn gwybod beth i wneud ac allwn i ddim fforddio gadael."

Dywedodd iddo "chwarae gemau gyda fi" a'i thanseilio - gorchymyn iddi wneud rhywbeth ac yna gweiddi gan wadu'r gorchymyn.

Byddai'n gwrthod ei hyfforddi, ac yna beirniadu ei chamgymeriadau. "Roedd e'n ddryslyd iawn," meddai. "Ro'n i wastad mewn penbleth."

'Gafaelodd e ynof i'

Ar ddechrau un diwrnod "roedd e'n amlwg wedi ypsetio gyda fi a doedd gen i ddim syniad pam."

"Gafaelodd e ynof i a gwasgodd a siglodd e 'mhen ôl i'n ymosodol a cheisiodd e gyffwrdd â'm horganau rhywiol wrth i fi symud oddi wrtho. Ro'n i mewn sioc llwyr."

Pan gwynodd hi ynghylch ei ymddygiad, dywedodd na chafodd help wrth i reolwyr y bwyty "amddiffyn ei gilydd".

Aeth at yr heddlu. Cafodd y rheolwr rybudd, ond ni chafodd ei wahardd o'r gwaith tra bo'r perchnogion yn cynnal ymchwiliad.

Honnodd ei fod wedi cael ei gyhuddo ar gam "achos mod i'n hwyr i'r gwaith o hyd a doedd fy ngwaith ddim yn ddigon da. Aeth e mor bell â rhoi rhybudd imi."

Fe wnaeth hefyd atal ei hamser egwyl a'i symud i shifftiau nos parhaol, oedd "yn lladdfa." Dywedodd iddi ddioddef "straen a gorbryder" wrth deimlo "mor ynysig".

"Gadewais i ar ôl 18 mis, allwn i ddim ei ddioddef rhagor... Yn y pendraw cafodd ei wahardd, ond roedd yn rhy ychydig yn rhy hwyr i fi.

"Ro'n i am symud ymlaen, ro'n i am fod yn rheolwr. Ces i yrfa wedi dwyn oddi arna i achos ymddygiad fy rheolwr."

Pynciau cysylltiedig