Stelcio: Galw am well hyfforddiant ac addysg i blismyn

  • Cyhoeddwyd
stelcianFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna alwadau am well hyfforddiant ac addysg i blismyn fel eu bod yn gwybod pryd mae angen gwneud cais am orchymyn i amddiffyn pobl rhag cael eu stelcio.

Mae cais rhyddid gwybodaeth ar ran BBC Cymru wedi awgrymu nad yw heddluoedd Cymru yn defnyddio y pwerau newydd a gafodd eu cyflwyno ym mis Ionawr 2020 i amddiffyn dioddefwyr rhag cael eu stelcio.

Dim ond dau sydd wedi eu caniatáu yng Nghymru, un gan Heddlu Dyfed-Powys a'r llall yn orchymyn dros dro gan Heddlu'r Gogledd - gorchymyn a gafodd ei newid yn un llawn yn ddiweddarach.

Cafodd dros 3,000 o droseddau yn ymwneud â stelcio eu hadrodd i heddluoedd Cymru yn yr un cyfnod.

Dywed y cyn-Aelod Seneddol a'r bargyfreithiwr Elfyn Llwyd, a fu'n cynorthwyo i gyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd, ei fod yn siomedig o glywed y ffigyrau a bod y ddeddfwriaeth yn bwysig i amddiffyn yr achwynwr.

"Mae'r ddeddf newydd yn gallu cael canlyniadau buan ac mi wnes i ddweud ar y dechrau bod angen i blismyn gael hyfforddiant - salwch meddwl yw stelcian, mae'n drosedd unigryw ac yn aml yr hyn sydd ei angen yw ymyrraeth feddygol ond mae'n bwysig bod hynny'n digwydd a bod yr achwynwr yn cael ei amddiffyn yn fuan," meddai.

Disgrifiad,

Sara Manchipp, cyn-Miss Cymru, yn trafod ei phrofiad hi o stelcian ar Dros Frecwast

Cafodd cyn Miss Cymru, Sara Manchipp, ei stelcio am wyth mis ac mae'r sawl oedd yn gyfrifol bellach wedi'i garcharu.

Ar raglen Dros Frecwast dywedodd ei bod yn anodd siarad am y mater ond ei bod yn fodlon siarad er mwyn codi ymwybyddiaeth.

"Mae e dal i effeithio fi ond fi mo'yn siarad amdano a thrwy siarad am y peth dwi'n gobeithio y byddai'n rhoi hyder i ddioddefwyr eraill fynd at yr heddlu.

"Cael negeseuon ar messenger facebook 'nes i i ddechrau a'r person yma yn dweud ei fod yn mynd i fy nhreisio i a'n llofruddio i ond rhaid i fi ddweud bod yr heddlu yn wych.

"Roedd plismyn wir yn cymryd fi o ddifrif ond dwi'n siomedig i glywed nad ydyn nhw wedi defnyddio'r pwerau ychwanegol - mae angen i fwy o ferched ddod yml'an a sôn am eu profiadau."

'Roedd yn ddi-baid'

Mae Bethan - nid ei henw iawn - yn byw yng Nghymru ac wedi rhannu ei phrofiad gyda BBC Cymru.

"Fe fydden ni'n deffro, ac wedi cael cant o alwadau ffôn nad oedden ni yn ateb, mewn awr, a llif o negeseuon testun. Roedd yn ddi-baid.

"Fe fyddai'r stelciwr tu allan ac yn gallu dweud wrthyf beth oedden ni yn ei wisgo a phwy oedd yn gwmni i fi."

Dywed Bethan bod yr effeithiau hir dymor o'r hyn a ddigwyddodd iddi yn ddinistriol.

"Mae wedi gwneud i mi deimlo yn sâl. Rwy' ar bigau'r drain drwy'r amser."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Bethan wedi dweud wrth yr heddlu ei bod hi yn cael ei stelcio.

"Aflonyddu oedd y term ddefnyddiwyd pan nes i ddweud wrth yr heddlu ond wnaeth dim byd ddigwydd felly 'nes i stopio sôn amdano fe."

Roedd hyn cyn i'r pwerau newydd ddod i rym ond mae Bethan yn annog eraill i siarad am eu profiadau.

Fe gafodd y pwerau newydd eu cyflwyno ym mis Ionawr y llynedd i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Y bwriad yw amddiffyn dioddefwyr, ac os yw stelciwr yn torri'r gorchymyn mae'n drosedd.

Gall heddluoedd wneud cais i ynadon am Orchymyn Amddiffyn Stelcio fyddai, fel arfer, yn para mewn grym am ddwy flynedd. Byddai gorchymyn interim yn cael ei wneud er mwyn rhoi pwerau yn syth i amddiffyn dioddefwyr tra bod penderfyniad llawn yn cael ei ystyried.

Loteri

Dywedodd Jane Monckton Smith, sydd yn arbenigo ar y maes ym Mhrifysgol Caerloyw, ei bod yn croesawu'r pwerau newydd ond nad oedd hi'n teimlo bod yr heddluoedd yn eu defnyddio nhw yn rheolaidd.

"Mae sut mae'r gorchymynion amddiffyn yma yn cael eu defnyddio yn loteri cod post, ond dwi ddim yn meddwl bod nifer o heddluoedd yn eu defnyddio yn rheolaidd," meddai.

Mae hi wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys er mwyn hyfforddi plismyn i adnabod arwyddion o stelcio.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi defnyddio'r pwerau newydd.

Mae'r Prif Dditectif Arolygydd Richard Yelland yn gweithio mewn uned arbennig sydd yn cefnogi pobl bregus ac wedi bod yn gweithio i gynyddu hyfforddiant o fewn y tîm. Mae'n dweud bod na opsiynau eraill hefyd y gellid eu defnyddio heblaw gorchmynion amddiffyn, ond "yn yr achosion hynny, lle mae hi yn briodol, fe fyddwn ni yn parhau i ddefnyddio y gorchmynion".

Am fwy o wybodaeth am fudiadau sydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth ewch i wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig