Caerdydd: Atal dau aelod o staff yr academi dros fwlio honedig
- Cyhoeddwyd
Mae dau o staff academi Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi eu hatal o'r gwaith, wrth iddyn nhw ymchwilio i honiadau o fwlio.
Yn ôl Caerdydd, maen nhw'n cymryd yr honiadau o ddifrif gan ddweud y bydd yr ymchwiliad yn un trylwyr.
Dywed y clwb fod yr ymchwiliad "cynhwysfawr" yn edrych "i honiadau, nad ydynt yn ddiweddar, o fwlio ac arfer gwael yn ymwneud ag academi'r clwb".
Mae eu pennaeth diogelu yn ymchwilio, gyda bwrdd cyfarwyddwyr y clwb yn goruchwylio'r broses.
Ni fyddan nhw'n gwneud sylw pellach ar y mater am y tro.
'Amgylchedd annerbyniol'
Yn 2019, fe wnaeth ymchwiliad i honiadau o fwlio a cham-drin o fewn y clwb ganfod nifer o bryderon sylweddol am "amgylchedd annerbyniol" wrth hyfforddi chwaraewyr ifanc.
Ym mis Ionawr 2019, fe wnaeth Craig Bellamy roi'r gorau i hyfforddi'r tîm dan 18 ar ôl i'r clwb benderfynu ymchwilio i honiadau o fwlio yn ei erbyn.
Daeth hyn wedi adroddiadau am gwynion am y ffordd honedig roedd y cyn ymosodwr rhyngwladol yn trin chwaraewr ifanc.
Mae Mr Bellamy, 41, wedi gwadu'r honiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019