Ymgyrch i enwi mwy o lorïau graeanu Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mae 10 o lorïau graeanu Traffig Cymru wedi'u henwi yn barodFfynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae 10 o lorïau graeanu Traffig Cymru wedi'u henwi yn barod

Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i helpu i enwi 30 o lorïau sy'n graeanu ffyrdd Cymru.

Daw'r apêl ddiweddaraf ar ôl i Snowain Glyndŵr, Fan Halen a Dai Icer fod ymhlith y ceisiadau buddugol mewn cystadleuaeth debyg y llynedd.

Lansiodd Traffig Cymru ei gystadleuaeth enwi gyhoeddus gyntaf ar gyfer y fflyd yn 2020 a dewiswyd 10 enillydd o blith mwy na 300 o gynigion.

Bydd y bleidlais newydd ar gyfer graeanwyr yn ne Cymru yn rhedeg o fis Medi 2021.

Dywedodd Traffig Cymru y byddai'n cyhoeddi ei ddewisiadau gorau o fis Hydref ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dai Icer ymhlith un o'r ceisiadau llwyddiannus i'r gystadleuaeth ddiwethaf

O'r 10 sydd wedi'u henwi hyd yma, mae rhai wedi'u henwi ar ôl unigolion Cymreig a chyfeiriadau diwylliannol, tra bod eraill wedi ymgymryd â themâu tymhorol:

  • Oh Salt's Occurring

  • Snowain Glyndŵr

  • Pretty Gritty City

  • Fan Halen

  • Aneurin Bevan

  • Pont Y Ploughie

  • Y Ddraig Oren

  • Dai Icer

  • Eira Gwyn

  • Cymro

Dewiswyd yr enw Aneurin Bevan - sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol - i anrhydeddu'r GIG a'r staff gofal iechyd sydd wedi gweithio yn ystod pandemig Covid-19.

Dywedodd Traffig Cymru ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn "mwy o syniadau rhagorol" eleni.

"Gall pobl anfon eu henwau ar thema Cymru trwy ddefnyddio #NameOurGrittersSW neu drwy e-bostio.

"Cymerwch ran a helpwch i roi mwy o gwmni i Oh Salt's Occurring, Snowain Glyndŵr a gweddill ein fflyd," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig