Pro14: Benetton 14-29 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Corey Domachowski yn sgorio un o geisiau'r ymwelwyr yn Yr EidalFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Corey Domachowski yn sgorio un o geisiau'r ymwelwyr yn Yr Eidal

Cadwodd Gleision Caerdydd eu gobeithion o fynd drwodd i Gwpan y Pencampwyr y tymor nesaf yn fyw gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Benetton.

Rhoddodd ceisiau hanner cyntaf gan yr asgellwr Ratuva Tavuyara a'r prop pen tynn Ivan Nemer y tîm cartref ar y blaen.

Ond sgoriodd Keiron Assiratti gais cyntaf y Gleision eiliadau cyn hanner amser a munudau ar ôl yr egwyl cawson nhw ail trwy Alex Summerhill i fynd ar y blaen.

Fe sicrhaodd Gleision Caerdydd y pwynt bonws trwy geisiau gan Corey Domachowski a Rey Lee-Lo.

Byddai buddugoliaeth i dîm Dai Young a buddugoliaeth i Connacht ym Mharc y Scarlets ar 22 Mawrth yn rhoi'r Gleision yn y trydydd safle yn Adran B ac felly yn mynd drwodd i Gwpan y Pencampwyr.

Benetton: Jayden Hayward; Ratuva Tavuyara, Joaquin Riera, Luca Morisi, Angelo Esposito; Tommaso Allan, Dewaldt Duvenage (capt); Thomas Gallo, Corniel Els, Ivan Nemer; Irné Herbst, Eli Snyman; Davide Ruggeri, Manuel Zuliani, Riccardo Favretto

Eilyddion: Giacomo Nicotera, Tomas Baravalle, Tiziano Pasquali, Matteo Canali, Giovanni Pettinelli, Alberto Sgarbi, Luca Petrozzi, Tommaso Benvenuti.

Gleision Caerdydd: Matthew Morgan; Jason Harries, Mason Grady, Rey Lee-Lo, Aled Summerhill; Ben Thomas, Jamie Hill; Corey Domachowski, Liam Belcher, Keiron Assiratti, Seb Davies, Rory Thornton, Olly Robinson, Ellis Jenkins, Josh Turnbull (capt)

Eilyddion: Iestyn Harris, Rhys Gill, Dillon Lewis, James Ratti, Alun Lawrence, Lewis Jones, Jarrod Evans, Max Llewellyn.

Pynciau cysylltiedig