Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Aden FlintFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amddiffynwr Aden Flint wedi sgorio 38 gôl ers 2014

Fe wnaeth Caerdydd roi hwb i'w gobeithio o gyrraedd y gemau ail-gyfle wrth guro Abertawe yn Stadiwm Liberty.

Roedd y fuddugoliaeth, diolch i beniad Aden Flint, hefyd yn ergyd i obeithion yr Elyrch o sicrhau dyrchafiad awtomatig i'r Uwch Gynghrair.

Erbyn hyn mae yna fwlch o chwe phwynt rhwng Abertawe a Watford yn yr ail safle, gydag Abertawe wedi chwarae un gêm yn llai.

Mae'r fuddugoliaeth yn gweld Caerdydd yn codi i'r wythfed safle, pedwar pwynt o'r safleoedd ail-gyfle.

Gallai ymosodwr Cymru Kieffer Moore fod wedi dyblu mantais Caerdydd - ond methodd gyfle gwych.

Wrth i Abertawe bwyso am gôl gyfartal, Andre Ayew ddaeth agosaf, ei ergyd yn taro'r postyn.

Daeth gôl Caerdydd ar ôl tafliad hir Will Vaulks wrth i amddiffyn Abertawe fethu a chlirio.

Er i Freddie Woodman arbed yn wych i rwystro Marlon Pack roedd Flint ar gael i benio'r bêl i gefn y rhwyd.

Yr Elyrch orffennodd gryfaf, gyda Morgan Whittaker yn methu cyfle yn hwyr yn y gêm, a Dillon Phillips yn arbed ergyd gan Lowe.