Covid-19: Goleuo Cymru'n felyn i gofio
- Cyhoeddwyd

Cafodd adeiladau dros Gymru, gan gynnwys Castell Conwy, eu goleuo'n felyn dros nos i gofio'r rhai sydd wedi marw o Covid-19.
Mae hi'n flwyddyn ers i'r DU fynd i gyfnod clo am y tro cyntaf ac mae dros 60 o adeiladau ledled Cymru wedi cymryd rhan yn y weithred, gan gynnwys y Senedd a chestyll Caerffili, Caeriw, Gwrych, Caerdydd a Chaernarfon.
Cafodd y goleuo ei drefnu gan Grŵp Teuluoedd Covid-19 Cymru, sy'n cefnogi tua 1300 o bobl sydd wedi colli teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig.

Castell Conwy

Roedd Castell Caeriw yn un o dri adeilad yn Sir Benfro i gael eu goleuo'n felyn

Goleudy Llyn y Rhath, Caerdydd, wedi'i oleuo'n felyn

Y Senedd - bu gwasanaeth arbennig yno i gofio'r rhai sy' wedi marw

Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd

Castell Gwrych wedi ei oleuo'n felyn mewn ymarfer ar gyfer y cofio
Hefyd o ddiddordeb