Rhybudd am gynnydd Covid-19 yn ardal Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Daeth rhybudd i bobl yn ardal Caernarfon sicrhau eu bod yn cadw at y rheolau Covid-19, er mwyn atal lledaeniad pellach yr haint.
Er bod cyfraddau yn gostwng yng Ngwynedd yn gyffredinol, mae pryder am gynnydd mewn rhai cymunedau yn nalgylch Caernarfon.
Dywedodd y cyngor bod yr "ystadegau wedi dangos cynnydd yng Nghaernarfon a chymunedau cyfagos yn cynnwys Rhosgadfan, Y Felinheli a Deiniolen".
Dywedodd Dafydd Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Gwynedd: "Mae hyn yn fater o bryder ac rydym yn erfyn ar drigolion yn yr ardaloedd yma i sicrhau eu bod yn cadw at y rheolau er mwyn atal lledaeniad pellach yr haint."
Cadw at y rheolau
Ychwanegodd: "Fe wyddom am gymunedau eraill lle mae niferoedd gweddol fychan o'r haint wedi cynyddu dros nos gynted a mae'r patrwm o ledaeniad wedi ei sefydlu.
"Rydym am osgoi sefyllfa o'r fath yng Nghaernarfon a chymunedau cyfagos.
"Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cyfraddau Covid-19 yn disgyn yn gyffredinol yma yng Ngwynedd, ac mae'r diolch am hynny i drigolion y sir am gadw at y rheolau."
"Fe wyddwn ni fod hi wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, ond mae hi'r un mor bwysig rŵan ein bod i gyd yn cadw at y mesurau allweddol o wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd dan do cyhoeddus, golchi dwylo yn rheolaidd, awyru ystafelloedd, cadw pellter cymdeithasol a pheidio cyfarfod pobl y tu mewn nad ydych chi'n byw gyda nhw.
"Byddem hefyd yn annog unrhyw un sy'n datblygu unrhyw symptom Covid-19 i hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith."
Daw'r rhybudd ar ôl i Gyngor Ynys Môn sefydlu canolfan brofi yr wythnos hon mewn ymateb i gynnydd mewn achosion yng Nghaergybi.
Y penwythnos diwethaf roedd y gyfradd achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 466.5 ar gyfer ardal Caergybi.
Mae'r ffigwr wedi gostwng rhywfaint erbyn hyn, ond mae'n parhau'n uwch na'r cyfartaledd dros y wlad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021