Dyfodol 'llewyrchus' i dîm Cymru meddai Pivac

  • Cyhoeddwyd
Codi tlws Pencampwyr Chwe Gwlad 2021Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru

Mae tîm rygbi Cymru wedi derbyn tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021, a'r Goron Driphlyg, mewn seremoni fechan yn eu canolfan ymarfer.

Daeth y tîm i'r brig yn y gystadleuaeth wedi i Ffrainc golli i'r Alban nos Wener.

Dyma'r chweched tro i Gymru ennill y bencampwriaeth ers 2000.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, bod y garfan wedi wynebu 'sawl eiliad emosiynol' dros y saith diwrnod diwethaf ar ôl iddyn nhw golli i Ffrainc dydd Sadwrn diwethaf, a methu sicrhau'r Gamp Lawn.

Mewn dathliad distaw ym mhencadlys y garfan ym Mro Morgannwg fe dderbyniodd y chwaraewyr eu medalau, cyn i'r capten, Alun Wyn Jones a'r is-gapten, Justin Tipuric, godi'r tlysau.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wayne Pivac yn ennill ei bencampwriaeth cyntaf. Dyma'r pumed un i Alun Wyn Jones, capten Cymru

Cyn cyflwyno'r medalau i'r chwaraewyr dywedodd Wayne Pivac y byddan nhw'n "falch iawn pan fyddan nhw'n edrych yn ôl ar y bencampwriaeth."

"Roedd yn daith emosiynol, lan a lawr, dros y saith niwrnod diwethaf," meddai'r gwr o Seland Newydd.

"Roedd ein perfformiad gorau o bell ffordd yn erbyn y Ffrancwyr, ac roeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi gwneud digon hanner ffordd trwy'r ail hanner i fod wedi ennill y gêm honno, ond doedd hi ddim i fod.

Dyfodol 'llewyrchus'

"Doedden ni ddim yn gwybod a oedd hynny'n ddigon i ennill y bencampwriaeth, ac yna aros saith diwrnod am yr ornest honno (Ffrainc yn erbyn yr Alban) ac yna mynd trwy'r ornest honno."

Dywedodd Pivac ei bod hi wedi cymryd nes dydd Mercher iddo fedru dod dros penwythnos diwethaf, ond ei fod yn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus gyda'r garfan.

"Byddwn yn parhau i wella", meddai, "(a) byddwn yn tynnu llinell o dan hyn nawr a gweld sut ydyn ni, rydyn ni mewn sefyllfa eithaf cyfforddus ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y prif hyfforddwr Wayne Pivac gyda thlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad cyn eu colled yn erbyn Ffrainc

Canmoliaeth i Pivac

Yn y cyfamser mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru wedi canmol Wayne Pivac am arwain Cymru i'r teitl wedi blwyddyn gyntaf simsan wrth y llyw.

O dan arweinyddiaeth Pivac mae'r tîm cenedlaethol wedi troi cornel ar ôl ennill dim ond tri allan o 10 Prawf yn 2020.

"Roedden ni'n gwybod o'r cychwyn cyntaf bod yn rhaid i ni lynu gan Wayne gan ei fod yn mynd i gael dull gwahanol o weithredu," meddai Robert Butcher.

"Rydyn ni'n falch iawn o gael y gefnogaeth sydd gyda ni ac rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r feirniadaeth sy'n codi ar brydiau.

"Roedden ni'n gwybod o'r pwynt y cafodd Wayne ei ddewis y byddai'n mynd i fod yn anodd", meddai.

"Roeddem yn ddigon realistig i sylweddoli nad oedd yn mynd i fod yn gromlin barhaus i fyny a gall fod yn gylchol."