'Rhaid i Gymru wyrddach beidio taro ardaloedd tlawd'
- Cyhoeddwyd
Rhaid sicrhau nad ydy'r trawsnewidiad economaidd sydd ei angen i daclo newid hinsawdd yn gwneud bywyd yn "anoddach fyth" i gymunedau difreintiedig, medd ymgyrchydd blaenllaw.
Mae Susie Ventris-Field yn arwain ymdrechion i recordio 50,000 o negeseuon o Gymru i'w cyflwyno yng nghynadledd fawr y Cenhedloedd Unedig ar gynhesu byd eang eleni.
Dywedodd bod "lleisiau pobl gyffredin ar goll" yn rhy aml wrth gynllunio ar gyfer dyfodol gwyrdd.
Daw wrth i "reithgor newid hinsawdd" o drigolion cymoedd De Cymru gyhoeddi eu syniadau hwythau.
Maen nhw'n cynnwys sefydlu canolfannau lleol ar gyfer gweithio o bell er mwyn lleihau'r angen i gymudo i Gaerdydd ac Abertawe, a gwahardd ceir o ganol trefi i atal llygredd aer.
Mae dros 60 o sefydliadau wedi uno i lansio ymgyrch Climate.Cymru, dolen allanol, gyda mwy na 1000 o unigolion, teuluoedd a busnesau eisoes wedi cyfrannu eu straeon personol a'u hawgrymiadau ynglŷn â mynd i'r afael â bygythiad cynhesu byd-eang.
Fe fyddan nhw'n cael eu cyflwyno i wleidyddion Cymru a'u harddangos fel rhan o arddangosfa ryngweithiol yn neuadd ddigwyddiadau COP26 , dolen allanolyn Glasgow - cynhadledd a fydd yn denu arweinwyr o bob cwr o'r byd yn ddiweddarach eleni.
Hyd yn hyn, dywedodd Ms Ventris-Field - Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru - bod y negeseuon yn amrywio o alwadau i ddiogelu natur a bywyd gwyllt - oedd wedi dod yn "bwysig iawn" i bobl yn ystod y cyfnodau clo - i wneud cerbydau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy.
"Y flaenoriaeth yw clywed gan gymunedau a fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau economaidd enfawr sydd eu hangen i waredu allyriadau nwyon tŷ gwydr dros y degawdau nesaf, a'r rhai sydd eisoes yn cael eu taro gan effeithiau newid hinsawdd," meddai.
"Er mwyn gwneud i'r trawsnewid (i Gymru wyrddach) ddigwydd mewn ffordd sydd ddim yn effeithio ar bobl sydd eisoes yn wynebu trafferthion - mae angen clywed eu lleisiau.
"Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr hinsawdd i weld y newidiadau ym mhatrymau tywydd, i weld y cynnydd mewn llifogydd rydyn ni wedi'u gweld yma yng Nghymru sydd wedi bod mor anodd i bobl mewn blwyddyn lle maen nhw eisoes yn brwydro gyda'r pandemig.
"Mae mor bwysig ein bod yn dechrau cymryd camau cadarn cyn gynted â phosibl ar draws pob sector a chymdeithas - ond er mwyn gwneud hynny mae angen i wleidyddion osod y fframwaith cywir," ychwanegodd Ms Ventris-Field.
"I roi hynny ar waith mae angen clywed barn pobl o bob cwr o Gymru."
Yn ddiweddar, cynhaliodd Blaenau Gwent "Gynulliad Hinsawdd" lle gwnaeth 50 o drigolion helpu i lywio cynllunio gan y cyngor lleol a sefydliadau eraill.
Yn y cyfamser, gofynnodd Comisiwn Cyfiawnder Amgylcheddol trawsbleidiol, a sefydlwyd gan y felin drafod IPPR, i bobl o bob rhan o gymoedd de Cymru i fod yn "rheithgor dinasyddion" sy'n gweithio gydag arbenigwyr i gynnig awgrymiadau i wleidyddion.
Mae rheithgorau tebyg wedi'u cynnal yn siroedd Durham, Aberdeen, ac Essex.
Dywedodd y sefydliad ei bod yn hanfodol nad oedd y rhannau hyn o'r wlad yn wynebu yr un fath o "anghyfiawnder" a welwyd yn ystod y trawsnewidiad diwydiannol diwethaf.
"Mae'r cymoedd yn parhau i wynebu effeithiau cau'r pyllau a'r colledion swyddi a ddaeth yn ei sgil," rhybuddiodd.
"Mae hynny'n effeithio ar sut mae pobl yn teithio - gyda llawer yn dibynnu ar geir i fynd i mewn ac allan o'r ardal ar gyfer gwaith gan bod dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig."
Dadl y rheithgor oedd ei bod yn allweddol bod newid i ddyfodol gwyrddach yn sicrhau y gallai pobl lwyddo tra'n aros yn lleol.
'Wedi dysgu llawer'
Dywedodd Jesse Patton o Ystalyfera sy'n rhedeg busnes cyflenwi offer i dafarndai a bwytai ei fod wedi bod yn "frawychus ar adegau" dysgu mwy am ddifrifoldeb y sefyllfa newid hinsawdd.
Ond dywedodd fod y sesiynau wedi ei annog i wneud newidiadau i'w fusnes - mae e bellach yn sicrhau bod yr holl gynnyrch tafladwy mae'n eu cyflenwi yn gallu cael eu hailgylchu ac mae wedi cael gwared ar unrhyw blastig untro.
"Dydych chi ddim yn sylweddoli difrifoldeb y mater nes bod y ffeithiau a'r ffigyrau'n cael eu rhoi (o'ch blaen) - ond roedd dysgu beth allwn ni ei wneud am y peth a sut y gallwn ni newid yn addysgiadol iawn, yn dda iawn."
Galwodd y rheithgor am strategaeth economaidd ar gyfer y cymoedd wedi'i hanelu at 'drefi angor' gyda chanolfannau lleol ar gyfer gweithio o bell ac adfywiad i'r 'stryd fawr' leol.
Anogwyd buddsoddiad sylweddol mewn opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus werdd - a gwahardd ceir o ganol trefi mewn ymgais i wella ansawdd aer.
Nodwyd hefyd y dylai seilwaith digidol - fel band eang cyflym - "gael ei drin fel hawl dynol sylfaenol" - i alluogi pob math o swyddi gael eu gwneud o bell ar ôl y pandemig.
Dywedodd Katie Lloyd, swyddog gwerthu a marchnata o Gastell-nedd fod y sesiynau wedi ei hannog i fynd yn ôl i'r brifysgol a dilyn gradd meistr mewn materion amgylcheddol.
"Mae wedi rhoi cyfle i ni fyfyrio ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ein cymuned a sut y gellid creu mwy o gyfleoedd yn lleol, sy'n golygu nad oes rhaid i bobl adael yr ardal," meddai.
Dywedodd Becca Massey-Chase, o Gomisiwn Cyfiawnder yr Amgylchedd mai'r rheithgor oedd y "cyntaf o'i fath yng Nghymru" a'i fod wedi cynhyrchu "cynigion craff ac ymarferol ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur mewn ffordd sy'n deg i bawb".
"Dywedodd ein rheithgor wrthym eu bod am fod yn rhan o'r newid, yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Maen nhw eisiau i bethau gael eu gwneud gyda nhw yn hytrach nag iddyn nhw," meddai.