Croesawu llacio'r cyfyngiadau ond gyda gofal

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhossili

Wedi i Gymru fwynhau'r penwythnos cyntaf o lacio'r cyfyngiadau a chael teithio i rywle o fewn ei ffiniau, dywed Cymdeithas Gŵyr fod yna groeso i bawb yng Ngŵyr os ydyn nhw'n ofalus.

Grŵp sy'n annog ac yn helpu pobl i fwynhau harddwch yr ardal ydy'r gymdeithas.

Daw sylwadau'r cadeirydd, Guto ap Gwent wrth i Abertawe gofnodi 24 achos newydd o'r coronafeirws ddydd Sul.

"Os ydy hwn yn arwydd o beth sydd i ddod, mae yna reswm i bryderu braidd," meddai.

"Mae'r ffigyrau diweddara' yr wythnos hon ddim yn ffafriol iawn i Abertawe. Wrth gwrs ry'n ni am i'r ymwelwyr ddod i Abertawe - ry'n ni am iddyn nhw ddod i'r Gŵyr oherwydd mae ein busnesau ni, ein gwestai a thafarndai, ein siopau ni yn dibynnu arnyn nhw.

"Ond mae'n rhaid i bobl ufuddhau i'r rheolau. Rwy'n credu os wnaiff pawb ufuddhau falle gewn ni haf bendigedig, hapus - pawb wrth eu bodd yn cael beth maen nhw'n dymuno."

Ddydd Sul dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd yn nodi'r camau nesaf ar gyfer ailagor cymdeithas ddydd Iau gyda'r bwriad o roi sicrwydd i'r diwydiant lletygarwch.

'Lyfli gweld Mam ar ôl misoedd'

"Rwy' innau hefyd yn erfyn ar bawb i fod yn ofalus," medd Elin Maher o Gasnewydd wrth siarad â Cymru Fyw.

"Fues i yng Nghlydach ger Abertawe ddydd Sadwrn yn gweld Mam - doeddwn i ddim wedi ei gweld ers mis Tachwedd diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

'Roedd hi mor lyfli gweld Mam er bo fi wedi cael socad yn yr ardd,' medd Elin Maher o Gasnewydd

"Do'dd y tywydd ddim yn ffafriol i ni gwrdd tu fas - ges i socad ond o'dd e mor lyfli gweld Mam eto ar ôl yr holl fisoedd.

"Do'dd dim ots o gwbl ein bod ni'n wlyb.

"Ond mi o'n i'n teimlo bach fel croten ddrwg wedi pasio Tŷ Tredegar - fel bo fi'n torri ryw reol! Ond mi o'dd hi'n hyfryd.

"Ni gyd yn mynd i orfod cymryd ein tro wrth gwrs i ymweld - ry'n ni'n bump yn ein teulu ni a dwi innau yn un o dri o blant."

'Dim cwrdd tu mewn tan Mai'

Ar raglen Andrew Marr ddydd Sul, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gobeithio y bydd pobl yn cael mwynhau lletygarwch y tu allan erbyn diwedd Ebrill ond ei bod yn annhebygol y bydd pobl yn gallu cwrdd tu fewn tan fis Mai.

Dywed Ceidwadwyr Cymru ei bod yn bryd darparu cynllun manwl i deuluoedd, gweithwyr a busnesau Cymru.

Galw am amserlen bendant wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd ac mae Plaid Cymru wedi dweud ar hyd yr amser bod angen mwy o fanylion ar fusnesau fel eu bod yn gwybod beth sydd o'u blaen.

Ddydd Iau mae disgwyl i Lywodraeth Cymru nodi pa gyfyngiadau fydd yn cael eu codi ar 12 Ebrill - y disgwyl yw y bydd cadarnhad bod ysgolion a sefydliadau eraill yn cael agor yn llawn ynghyd â siopau.

Yn yr adolygiad ar 22 Ebrill mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ystyried ailagor lletygarwch tu allan, campfeydd, atyniadau awyr agored, canolfannau cymunedol a chodi cyfyngiadau ar aelwydydd estynedig.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod y cyfan yn ddibynnol ar nifer yr achosion o'r haint.