Covid-19: Tair marwolaeth a 94 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tri yn rhagor o bobl wedi marw gyda Covid-19, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd 94 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Gwener, 16 Ebrill.

Nid yw ICC yn cyhoeddi ystadegau dyddiol ar ddydd Sadwrn erbyn hyn.

Daw hyn â nifer yr achosion yng Nghymru ers dechrau'r pandemig i 210,823.

Mae cyfanswm y marwolaethau wedi codi i 5,538 yn ôl y system yma o gofnodi.

Yn y cyfamser, mae 1,685,298 o bobl (53.4% o'r boblogaeth) wedi cael un brechiad Covid a 601,458 (19.1%) wedi cael y cwrs llawn.

Mae'r gyfradd achosion wythnosol fesul 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 17.9.

Mae cyfradd y profion coronafeirws positif ar draws Cymru yn parhau ar 1.8%.

Pynciau cysylltiedig