Pethau'n 'lot gwaeth' ar ffermwyr rŵan, medd elusen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ffermwraig a defaid

Mae elusen sy'n cefnogi ffermwyr yn poeni nad oes digon yn defnyddio'r gwasanaeth ers sefydlu cangen yn y gogledd - a hynny gyda rhybudd nad ydy pethau erioed wedi bod cynddrwg i amaethwyr.

Yn ôl elusen Tir Dewi, roedd 70% o'r amaethwyr a gafodd eu holi fel rhan o arolwg diweddar yn dweud na fydden nhw'n gofyn am help hyd yn oed petai nhw'n wynebu problemau dybryd.

Dydy'r byd amaeth ddim wedi stopio drwy gydol y pandemig.

Gyda'r flwyddyn ddiwetha' wedi bod yn heriol, efallai bod mwy o angen nag erioed am elusennau fel Tir Dewi, sy'n cynnig cymorth cyfrinachol i ffermwyr.

Ag yntau wedi ffermio ar hyd ei oes mae Peredur Hughes, o Ynys Môn, yn un o ymddiriedolwyr yr elusen ac yn clywed yn ddyddiol bron gan ffermwyr sy'n poeni am eu sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolau llygredd amgylcheddol ac achosion TB yn destun pryder i ffermwyr ar hyn o bryd, medd Peredur Hughes

"Mi ydw i'n siarad lot efo ffermwyr eraill - yn anffodus dim ond ar y ffôn rŵan achos 'da chi ddim yn cael gweld nhw yn y farchnad," meddai.

"Un o'r pethau mwya' sy'n eu poeni nhw ydy'r nitrogen vulnerable zones yma, neu'r NVZs - mae hynny'n boen meddwl mawr iddyn nhw.

"A dyna i chi TB, mae honno'n broblem fawr arall. Ges i alwad gan ffarmwr yn ddiweddar 'ma - o'dd o wedi cael TB ar y ffarm am y tro cynta' erioed a doedd o ddim yn gwybod lle i droi.

"Dwi'n meddwl bod hi'n lot gwaeth ar ffermwyr rŵan. Mae 'na gymaint o broblemau rŵan ar y ffarm.

"Yn ariannol ma' pethau dipyn gwell achos ma' prisiau wedi codi 'chydig bach. Ond mae 'na boen meddwl mawr ac mae hynny'n amlwg yn y sgyrsiau dwi'n eu cael."

Cyndyn o godi'r ffôn am help

Ond er bod y problemau'n pentyrru i rai, dydy hi ddim o reidrwydd yn hawdd gofyn am gymorth.

Yn ôl gwaith ymchwil diweddar gan elusen Tir Dewi, roedd tua 70% o'r ffermwyr gafodd eu holi'n gyndyn o godi'r ffôn am help.

Ac ers i'r gwasanaeth sefydlu yn y gogledd yn 2020, dim ond gyda thua thri o achosion maen nhw wedi delio o'i gymharu â dros 200 ers cychwyn yn y gorllewin chwe blynedd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pandemig wedi gwneud y byd amaeth "yn fwy unig nag oedd o cynt" yn ôl Delyth Owen

Delyth Owen ydy rheolwr rhanbarthol gogledd Cymru gydag elusen Tir Dewi, a dywedodd: "Dim ond llond llaw o achosion hyd yn hyn 'da ni 'di delio efo nhw yn y gogledd i gymharu, ond dwi'n meddwl bod hynny i'w ddisgwyl achos megis dechrau ydan ni yn y rhan yma o Gymru.

"Dydy Covid-19 ddim wedi helpu - ddim yn gallu mynd i'r sioeau a'r marchnadoedd i sgwrsio efo'r ffermwyr - felly dwi'm yn meddwl bod nhw'n ymwybodol bod y cymorth yma ar gael.

"Dwi'n meddwl bod lot o'r ffermwyr yn hoffi mynd i'r marchnadoedd i gael sgwrs efo ffermwyr eraill, yn cymdeithasu fel 'na.

"Roedd y ffermwyr ifanc yn hoffi mynd i'r tafarndai i wylio'r rygbi ac yn y blaen, a chael allan o'r ffarm a chael bach o newid.

"Dydyn nhw ddim wedi gallu cael hynny, felly mae'r byd amaeth wedi mynd yn fwy unig nag oedd o cynt.

"'Da ni'n gallu helpu mewn llawer o ffyrdd. Os oes 'na golled 'di bod yn y teulu, achosion lladrata, TB, problemau ariannol - 'da ni wedyn yn gallu rhoi'r ffermwyr mewn cysylltiad, efo'u caniatâd nhw, efo mudiadau eraill. 'Da ni'n gweithio'n agos iawn efo bob math o elusennau a'r undebau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ymdrech i gael amaethwyr hŷn i siarad efo'r to iau, medd Caryl Haf

Un ffordd mae'r elusen yn ceisio estyn allan ydy drwy'r to iau - ac un o'u prosiectau'n canolbwyntio'n benodol ar Ffermwyr Ifanc.

Yn ôl Caryl Haf, Is-gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, mae 'na synnwyr yn hynny.

Dywedodd: "Ni gyd yn ymwybodol o'r ganran yn anffodus o gefndir amaethyddol sydd yn mynd drwy gyfnod anodd - nid yn unig dros y 18 mis diwetha' ond ar hyd y blynyddoedd - felly mae'n rhywbeth pwysig.

"Os allwn ni gael y bobl ifanc i ond gael ambell i berson hŷn i siarad, yna mae hynny'n gam pwysig iawn ar gyfer y dyfodol yn fy marn i."

Mae Delyth Owen yn ffyddiog y gall Tir Dewi fod yn gymorth mawr i ffermwyr sy'n wynebu trafferthion.

"Mae'r gwasanaeth 'da ni'n ei gynnig yn hollol gyfrinachol," meddai.

"O brofiad, o helpu pobl eraill, dwi'n meddwl mai'r neges ydy bod 'na gymaint o ryddhad o rannu'r baich efo rhywun arall, a theimlo bod 'na rywun ar eu hochr nhw yn gefn iddyn nhw.

"Dydyn nhw ddim ar eu pennau eu hunain yn hyn, 'da ni yna i helpu."

Ychwanegodd Peredur Hughes: "Dydy elusen Tir Dewi ddim yn gallu rhoi arian i'r ffermwyr ond fedran ni roi clust i wrando. Os oes 'na ryw broblem, fedran ni ddangos nhw lle i fynd i sortio'r broblem.

"Fedrwch chi sortio bob un problem, does dim rhaid i bobl deimlo'n unig."