Gyrwyr tacsi Eryri'n poeni am eu bywoliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae gyrwyr tacsi yn rhybuddio y gallent golli "miloedd a miloedd o bunnau" gan fod llai o le i'w cerbydau mewn safle ar droed yr Wyddfa.
Tan yr wythnos hon, roedd lle i chwe thacsi ym maes parcio Pen-y-Pass, ond does bellach ond lle i ddau, gyda rhwystrau'n atal defnydd un rhan o'r safle.
Yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n rhedeg y safle, mae rhesymau diogelwch dros wneud y newid.
Ond mae Paul Roberts o gwmni Tacsis PR yn Llanberis yn dweud y gallai arwain at golled incwm.
"Mi fyddai'n effeithio llawer o yrwyr tacsi yn ariannol - miloedd a miloedd o bunnau," meddai.
"'Dan ni wedi cael trafferthion ers blwyddyn... achos y cyfnodau clo. Mae pobl yn mynd i golli eu gwaith," meddai.
Mae cyfleusterau parcio a chludo yn yr ardal a bysus cyson yn danfon pobl i Ben-y-Pass. Bydd y maes parcio hwnnw yn defnyddio system rhag-archebu o 8 Ebrill.
Yn ôl y gyrwyr tacsi, roedd y drefn flaenorol yn golygu eu bod yn gallu helpu gyda'r llif o ymwelwyr sy'n teithio rhwng Pen-y-Pass a meysydd parcio eraill yn y cylch.
Dywedodd Vernon Thomas: "Surely to God, mae 'na fwy o risg i bobl ddal Covid-19 pan fod 'na 50 a mwy yn dod oddi ar fws na be' sy' 'na mewn tacsi.
"Dwi ddim yn gwybod be' maen nhw'n ei wneud. Dwi ddim yn meddwl eu bod yn gwybod eu hunain be' maen nhw'n ei wneud. Ond mae'n effeithio ni yn ein poced."
Wrth ymateb, dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
"Yn dilyn ymgynghori gyda Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gosod rhwystrau ar ochr allanol maes parcio Pen-y-Pass oherwydd pryderon diogelwch.
"Mae dau safle i dacsis ollwng a chodi pobl yn parhau ar ochor fewnol y maes parcio ac rydym yn argymell i ymwelwyr ragarchebu tacsis o flaen llaw os ydyn nhw'n dymuno gwneud defnydd o un o'r cwmnïau lleol yn hytrach na'r gwasanaeth parcio a theithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021