Cau meysydd parcio Eryri er mwyn atal teithio diangen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Y gwaith o gau maes parcio yn Llanuwchllyn fore Gwener

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu cau ei holl feysydd parcio er mwyn atal pobl rhag teithio'n ddiangen.

Mae Cymru mewn cyfnod clo lefel 4 ar hyn o bryd, sy'n golygu y dylid gadael eich cartref pan yn hanfodol yn unig.

Dywedodd yr awdurdod ei fod wedi gwneud y penderfyniad "er mwyn gwarchod ein cymunedau ac amddiffyn gwasanaethau iechyd gogledd Cymru".

Dros yr wythnosau diwethaf mae parciau cenedlaethol wedi bod yn cwyno am nifer yr ymwelwyr yno, gyda Warden Yr Wyddfa yn dweud bod rhai'n poeni dim am gael dirwy.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd yr awdurdod bod staff sy'n gofalu am faes parcio yn Eryri wedi profi "camdriniaeth" wrth i ymwelwyr barhau i deithio yno yn groes i'r rheolau.

Beth ydy'r rheolau?

Dan gyfyngiadau lefel 4 mae'n rhaid i unrhyw ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref, a does dim hawl teithio i leoliad arall i ymarfer - mynd yn y car i ddringo mynydd, er enghraifft.

Oni bai eich bod yn gallu cerdded i rywle o'ch cartref, fel mynyddoedd Eryri neu Fannau Brycheiniog, does dim hawl teithio yno er mwyn ymarfer corff.

Yr unig reswm dros deithio i ymarfer ydy os oes rheswm na allwch chi wneud hynny o'ch cartref, fel pobl mewn cadair olwyn.

Dywedodd cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Wyn Ellis Jones: "Mae'n amser tyngedfennol yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws ac mae'n flaenoriaeth gennym ni warchod cymunedau Eryri.

"Oherwydd y niferoedd uchel o bobl sydd wedi eu gweld yn anwybyddu rheoliadau cyfredol o gwmpas Eryri ers y Nadolig rydym wedi cymryd y camau brys hyn er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru yn eu neges bod angen osgoi teithio yn ddiangen.

"Rydym yn gobeithio bydd pobl yn cymryd cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd ac yn dilyn canllawiau'r llywodraeth o'u gwirfodd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd meysydd parcio Eryri eu cau yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn y gwanwyn hefyd

Ychwanegodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru, Nigel Harrison y bydd y llu yn parhau i gydweithio gyda'r Parc Cenedlaethol "er mwyn sicrhau fod pobl yn cydymffurfio â rheolau teithio Llywodraeth Cymru".

"Mae'r cyfyngiadau yn bodoli er mwyn ein gwarchod ni gyd. Mae'n hanfodol fod pawb yn cymryd cyfrifoldeb personol drwy aros adref, oni bai fod ganddynt reswm penodol," meddai.

"Ni ddylai bobl feddwl am ffyrdd i osgoi'r gyfraith. Ni ddylai'r heddlu gael eu galw er mwyn amlygu synnwyr cyffredin."