Plaid Cymru yn galw am bleidlais cefnogwyr annibyniaeth Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar gefnogwyr annibyniaeth Llafur i roi eu pleidlais i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd eleni.
Yn ôl Adam Price byddai ei blaid, petai'n dod i rym, yn cyflwyno refferendwm erbyn 2026.
Ond yn ôl un o ymgeiswyr Llafur Cymru, sy'n cefnogi annibyniaeth, byddai refferendwm o fewn y pum mlynedd nesaf yn "rhy fuan" ac yn "rhwygo" cymdeithas.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru y byddai "dyfodol Cymru yn well o fewn undeb decach".
Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn mynnu nad annibyniaeth yw'r ffordd ymlaen ac y dylid canolbwyntio ar yr "adferiad" wedi'r pandemig.
Ond yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, byddai ei blaid yn cynnig gweledigaeth "y gellid eu rhannu" â chefnogwyr annibyniaeth Llafur.
"Gwn fod llawer o gefnogwyr Llafur yn rhwystredig am amharodrwydd arweinyddiaeth eu plaid i gadw i fyny â'r ddadl gyfansoddiadol yng Nghymru," meddai.
"Gallant fod yn hyderus y byddai llywodraeth Plaid Cymru nid yn unig yn cyflwyno'r refferendwm ar annibyniaeth Cymru y maent yn dymuno, ond hefyd polisïau cymdeithasol radical - o ymestyn prydau ysgol am ddim, cyflog byw go iawn i weithwyr gofal, i wneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac i gyflawni'r weledigaeth o Gymru decach a gwyrddach - gweledigaeth yr ydym yn ei rhannu.
"Mae gan Plaid Cymru ddiddordeb mewn trawsnewid nid tincro. Rydym yn barod i sicrhau newid go iawn yn gyflym a byddwn yn gwneud hynny gyda pholisïau sydd wedi'u cynllunio i wneud iawn am y ddau ddegawd diwethaf o ddrifft.
"Annibyniaeth yw'r unig ffordd i sicrhau bod dyfodol Cymru yn nwylo Cymru."
'Ffederaliaeth nid annibyniaeth'
Mae gan Lafur Cymru dri ymgeisydd yn yr etholiad eleni sy'n gefnogwyr agored i annibyniaeth.
Un o'r rheiny yw Dylan Lewis-Rowlands, sy'n dweud nad yw Plaid Cymru wedi rhoi "darlun clir" o'r hyn maen nhw'n ei olygu wrth annibyniaeth.
"Mae 51% o gefnogwyr Llafur Cymru yn cefnogi annibyniaeth," meddai.
"Ond maen nhw'n gwrthwynebu neges Plaid Cymru mai 'ni yw Cymru, ni moyn bod yn annibynnol am mai ni yw Cymru' a maen nhw hefyd yn gwrthod y syniad o refferendwm fyddai'n rhwygo cymdeithas o fewn y tymor seneddol nesa.
"Nid dyna beth ry'n ni ei eisiau. Ry'n ni eisiau adeiladu Cymru, paratoi Cymru at y dyfodol er mwyn cael y gymdeithas ry'n ni ei heisiau. Ac yn gynta' i gyd ry'n ni eisiau mwy o bwerau wedi eu datganoli... dyna'r cam cyntaf."
Yn ôl Dylan Lewis-Rowlands mae'n "hapus" gyda pholisi presennol Llafur Cymru o alw am ffederaliaeth yn hytrach nag annibyniaeth.
"Gallen ni drafod beth yw 'ffederaliaeth' - dwi ddim yn siŵr ein bod ni wedi datrys hynny ar ein cyfer ni'n hunain eto... ond mae Cymru'n haeddu mwy o rymoedd er mwyn gwneud y newidiadau ry'n ni eisiau eu gwneud yng Nghymru."
Ymateb y pleidiau
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, mae'r achos dros annibyniaeth yn un "hurt".
"Ar ddiwedd y dydd, y llwyddiant mwyaf sydd wedi dod yn sgil argyfwng Covid yw'r rhaglen frechu, sydd wedi cael ei gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig - diolch i bawb sy'n gweithio gyda'i gilydd ar draws yr Undeb. Mae canolbwyntio ar annibyniaeth yn tynnu'r sylw oddi ar yr angen i ail-adeiladu'r gwasanaeth iechyd a'r economi."
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol dylid rhoi'r "adferiad yn gyntaf" ac maent yn dweud fod "pleidlais dros annibyniaeth yn bleidlais dros anrhefn ac ansicrwydd yn hytrach na'r adferiad ry'n ni ei ddirfawr angen".
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru mai nhw oedd "plaid datganoli. Llafur Cymru wnaeth sicrhau datganoli i Gymru, a Llafur Cymru sy'n sefyll lan i ymosodiadau'r Ceidwadwyr ar ein Senedd a'n democratiaeth Gymreig.
"Rydyn ni'n wladgarwyr balch ac yn credu y byddai dyfodol Cymru ar ei hennill mewn undeb decach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021