Rhybudd am eira a rhew mewn grym i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn am eira a rhew wedi bod mewn grym yng Nghymru dros nos.
Roedd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 22:00 nos Lun a 10:00 fore Mawrth.
Roedd y rhybudd yn berthnasol i'r gogledd a'r gorllewin, yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Môn, Penfro a Phowys.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd disgwyl hyd at 4cm o eira mewn mannau, yn bennaf ar dir uchel.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod amodau gyrru'n anodd ar ffyrdd fel yr A5 fore Mawrth.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd olygu oedi i deithwyr, a rhew ar y ffyrdd.