Cynllun ffordd £6m yn 'wastraff arian' medd trigolion

  • Cyhoeddwyd
llanrhystud

Byddai gwario £6m ar osod cylchfan ar yr A487 yn "wastraff arian", yn ôl rhai o drigolion Llanrhystud.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddau gynllun gwahanol fyddai'n gweld dros £23m yn cael ei wario ar wella diogelwch ffyrdd yn y canolbarth.

Yn Llanrhystud, mae rhai yn dadlau y gallai'r arian gael ei wario ar wneud rhannau eraill o'r pentref yn fwy diogel.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai bwriad y cynllun yw gwella'r cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de.

'Meddwl yn galed'

Mae Gareth Jones yn ffermio gyda'i deulu yn Llanrhystud, ac mae'r tir fferm ar naill ochr i'r ffordd newydd.

Disgrifiad o’r llun,

"Sain gwybod shwt fydd y busnes yn gallu cario 'mlaen fel mae cynllun yr hewl newydd yn edrych nawr," medd Gareth Jones

Dywedodd: "Ni'n croesi'r hewl biti tair gwaith yr wythnos ac mae gyda ni dri lle croesi i gyd, mae hi'n jobyn dwy funud ac yn hwylus iawn a does dim stress ar yr anifeiliaid.

"Sai'n gwybod shwt fydd y busnes yn gallu cario 'mlaen fel mae cynllun yr hewl newydd yn edrych nawr, am fod yr adeiladau i gyd ar un ochr i'r hewl a dros hanner y ddaear a'r stoc ar yr ochr arall.

"Sai'n gwybod shwt ni'n mynd i ddod i ben i 'weud y gwir. Bydd rhaid i ni feddwl yn galed a falle cadw llai o stoc.

"Mae fe'n mynd i effeithio ni yn y tymor hir, hyd yn oed os y' nhw'n compensato ni ac yn prynu'r tir, wel chi ddim yn ffermo i werthu daear. Maen eitha' gofid i 'weud y gwir."

Mae ffigyrau'n dangos bod 20 gwrthdrawiad wedi bod ar y rhan hon o'r A487 yn y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys chwech oedd o ganlyniad i gerbydau yn ceisio goddiweddyd.

'Gwastraff arian'

Yn ôl Donald Morgan, sy'n berchennog busnes lleol, mae mwy o beryglon mewn rhannau eraill o'r pentref.

"Dwi'n credu bod e'n wastraff arian. Mae 'na gyfleodd i gael i wario'r arian yn well.

"Mae lot o bethau yn y pandemig yma wedi gorfod costio lot mwy o arian a nawr maen nhw'n gwastraffu arian ar ryw hewl fan hyn ac yn Aberarth.

"Maen nhw wedi gwario cymaint yn Aberarth yn barod lle falle dylai'r arian gael ei wario ar y broblem yn Llanon gyda'r holl gerbydau yn parcio ar ochr yr hewl."

Disgrifiad o’r llun,

Cynllun y cylchfan

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dau gynllun gwahanol ar gyfer yr A487 rhwng Aberarth a Llanrhystud - prosiect gwerth £5.95m yn Llanrhystud ac yn arall gwerth £17.4m yn Aberarth.

Mae'r Cynghorydd Sir Rowland Rees-Evans yn "ddiolchgar" bod arian yn dod i orllewin Cymru.

"Mae'r Llywodraeth wedi bod yn siarad am wneud gwelliannau ar hewlydd yn y canolbarth ers blynyddoedd maith a nawr tro ni yw hi, ochr hyn i'r wlad.

"Fe ddylen ni gyd groesawi unrhyw welliant, yn enwedig os yw'n e'n mynd i stopid pobl gael damweiniau ceir.

"Ar ddiwedd y dydd, os yw e'n mynd i wella'r hewl, mae'n rhaid i ni fod yn ddiolchgar bod yr arian yn dod i'r ardal yma yn lle mynd i rywle arall."

Ymgynghoriad yn parhau

Meddai Llywodraeth Cymru: "Bwriad y cynllun yw gwella diogelwch a theithiau yn yr ardal, ac mae'n rhan o ymdrechion i wella'r cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de.

"Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys llwybr cerdded newydd fydd yn cael ei rannu gyda beicwyr.

"Mae ein hymgynghoriad ar agor tan ddiwedd mis Ebrill a byddwn yn ystyried unrhyw faterion a godir yn ofalus."

Pynciau cysylltiedig