Amazon yn gwrthod adolygiadau Cymraeg ar eitemau di-Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
AmazonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Amazon ganolfan anferth yn Abertawe, sy'n cyflogi cannoedd o staff

Mae un o gwsmeriaid Amazon wedi beirniadu polisi iaith y cwmni ar ôl iddyn nhw wrthod cyhoeddi ei adolygiadau yn Gymraeg.

Roedd Nigel Graham wedi ysgrifennu dau adolygiad - un ar dabledi fitaminau a'r llall ar lyfr Saesneg - yn canmol yr eitemau.

Ond mewn e-bost at Mr Graham, fe ddywedodd Amazon nad oedd modd cyhoeddi'r adolygiadau ar y wefan, gan ddweud nad oedden nhw'n dilyn "canllawiau cymunedol" y cwmni.

Dywedodd Amazon UK wrth BBC Cymru Fyw nad ydy eu canllawiau yn caniatáu negeseuon mewn iaith sy'n wahanol i iaith yr eitem ar y wefan.

Dywed llefarydd bod hawl gan bobl i adael sylw neu adolygiad yn Gymraeg ar eitemau Cymraeg eu hiaith, fel llyfr.

"Mae'n sefyllfa ryfedd," meddai Mr Graham, sy'n byw yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf.

"Yn ddiweddar dwi wedi darganfod fod pobl eraill wedi cael yr un drafferth.

"Yn wreiddiol ces i e-bost yn fy hysbysu bod Amazon wedi tynnu fy adolygiad oddi ar y system gan fod ei gynnwys yn groes i 'community guidelines' Amazon."

Ffynhonnell y llun, Nigel Graham
Disgrifiad o’r llun,

Yr e-bost dderbyniodd Mr Graham gan Amazon UK fis diwethaf

Dywedodd llefarydd ar ran Amazon UK: "Rydyn ni am i gwsmeriaid Amazon siopa'n hyderus gan wybod bod yr adolygiadau maen nhw'n eu darllen yn ddefnyddiol ac yn berthnasol fel y gallant wneud penderfyniadau prynu gwybodus.

"Mae gennym bolisïau clir ar gyfer adolygwyr a phartneriaid gwerthu sy'n adlewyrchu hyn.

"Yn gyffredinol ar draws ein holl farchnadoedd mae angen i'r holl wybodaeth sy'n cael ei phostio wrth gynnyrch fod yn yr un iaith â'r cynnyrch e.e. manylion y cynnyrch, gwybodaeth y gwerthwr ac adolygiadau cwsmeriaid.

"Er enghraifft, ar Amazon.co.uk, nid yw ein polisi yn caniatáu rhestru cynhyrchion mewn iaith arall."

'Rhwydd hynt i fod yn wrth-Gymraeg'

Mae Mr Graham yn dweud fod "anghysondebau sylweddol" ym mholisi iaith y cwmni a bod yna enghreifftiau ar Amazon UK o adolygiadau mewn ieithoedd ar wahân i'r Saesneg yn cael eu defnyddio ar gynhyrchion Saesneg.

"[E]fallai bod y polisïau'n glir ar bapur [ond] nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu gan weithredoedd staff Amazon sydd yn gyfrifol am chwynnu'r adolygiadau," meddai Mr Graham mewn ymateb.

"Sut y gall siopwyr brynu pethau gyda hyder os na chaiff adolygiadau eu caniatáu?

"Mae'r geiriad 'yn gyffredinol ar draws ein holl farchnadoedd...' yn amwys iawn ac yn rhoi rhwydd hynt iddynt fod yn wrth-Gymraeg."

Fis diwethaf, fe ymddiheurodd Amazon, dolen allanol am wrthod adolygiad yn Gymraeg ar lyfr gan Dewi Prysor, 'Lladd Duw'.

Dywed y cwmni mai "gwall technegol gwirioneddol oedd hwn a chafodd ei gywiro".

Pynciau cysylltiedig