Torïaid yn dod ag ymchwiliad i ymddygiad AS Delyn i ben

  • Cyhoeddwyd
Rob RobertsFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rob Roberts ei ethol i gynrychioli Delyn yn 2019

Ni fydd Aelod Seneddol a fu'n destun honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at staff yn wynebu unrhyw gamau pellach gan ei blaid.

Dywedodd y Ceidwadwyr fod Rob Roberts wedi derbyn "cerydd cryf" am ei ymddygiad "annerbyniol".

Mae'r ymchwiliad wedi dod i ben, meddai'r blaid, ac ni fydd yn cael ei ddiswyddo.

Dywedodd cyn-weithiwr i Mr Roberts ei fod yn teimlo fel "pe bai wedi osgoi wynebu unrhyw ganlyniadau".

Dywedodd y blaid na chafodd cwyn ei derbyn gan unrhyw un a aflonyddwyd yn rhywiol.

Mae Mr Roberts wedi cael cais am sylw.

Beth oedd yr honiadau?

Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe welodd BBC Cymru negeseuon a anfonwyd gan Mr Roberts yn cynnig "ychydig o hwyl heb ddisgwyliadau" i ddynes 21 oed oedd yn gweithio yn y senedd.

Roedd y ddynes wedi dweud wrth BBC Cymru bod y negeseuon wedi gwneud iddi deimlo'n "fregus iawn".

Cyfaddefodd hefyd iddo ofyn i weithiwr arall yn Nhŷ'r Cyffredin i fynd allan ag ef, a arweiniodd at y gweithiwr yn newid swydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfres o negeseuon a anfonwyd gan Rob Roberts at fenyw 21 oed

Dywedodd y cyn-weithiwr benywaidd wrth BBC Cymru y dylai'r blaid fod wedi tynnu'r chwip oddi ar Mr Roberts.

"Nid un digwyddiad oedd hyn ond sawl un ac mae'n fygythiad i'n diogelwch," meddai.

Ychwanegodd fod canlyniad ymchwiliad y blaid wedi rhoi "moesau a gwerthoedd y Blaid Geidwadol dan graffu os ydyn nhw'n anfodlon sefyll yn erbyn aflonyddu rhywiol a sefyll ar ochr menywod - yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni".

Beirniadodd hi hefyd eu penderfyniad i'w "gadw o fewn y blaid a rhoi cosb mor fach".

Honnodd y fenyw na chysylltwyd â hi "ar unrhyw adeg" fel rhan o ymchwiliad y Blaid Geidwadol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaed o leiaf ddwy gŵyn am Mr Roberts i gynllun cwynion annibynnol y senedd (ICGS)

Mewn ymateb dywedodd y Blaid Geidwadol nad ydyn nhw'n gwneud penderfyniadau ar y chwip ac na dderbyniodd y blaid unrhyw gŵyn swyddogol gan unrhyw un sy'n honni iddyn nhw gael ei aflonyddu'n rhywiol.

Ychwanegodd nad oedd cwynion a wnaed i'r blaid yn uniongyrchol gan yr unigolion dan sylw, ond eu bod yn dod o drydydd parti.

Roedd gwleidyddion Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw o'r blaen ar i'r Blaid Geidwadol dynnu'r chwip oddi arno.

Mae tynnu'r chwip yn golygu bod yr unigolyn yn cael ei daflu allan o'r blaid.

'Ymddygiad annerbyniol'

Nos Iau, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: "Mae'r ymchwiliad i Rob Roberts wedi dod i ben.

"Canfuwyd bod ymddygiad Rob Roberts yn annerbyniol o dan God Ymddygiad y Blaid ac mae wedi cael ei geryddu'n gryf.

"Mae Mr Roberts wedi ymddiheuro am ei ymddygiad a chafodd gyfarwyddyd i ymgymryd â hyfforddiant diogelu a diogelu'r cyfryngau cymdeithasol."

Mae'r blaid wedi dweud bod cwynion am Mr Roberts wedi cael eu harchwilio gan banel a gyfansoddwyd o dan god ymddygiad y blaid, a gadeiriwyd gan QC annibynnol.

Etholwyd Mr Roberts yn AS Ceidwadol Delyn yng ngogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2019.

Y llynedd, dywedodd yr AS ei fod yn cydnabod bod y cais i'r gweithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin "yn amhriodol" ond ni wnaeth sylw ar y negeseuon a anfonwyd at y gweithiwr benywaidd.

Pynciau cysylltiedig