Van der Gugten yn achub batiad Morgannwg yn Sir Efrog
- Cyhoeddwyd
Cafodd Morgannwg ddiwrnod da i agor eu tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Iau er gwaethaf dechrau anodd yn erbyn Sir Efrog.
Cafodd y tîm cartref ddechrau gwych wedi iddyn nhw alw'n gywir a phenderfynu rhoi Morgannwg i mewn i fatio gyntaf.
Er i Kiran Carlson sgorio 55 o rediadau, cafodd yr ymwelwyr eu cyfyngu i sgôr o 132-7 ar un adeg.
Ond llwyddodd Dan Douthwaite (57) a Timm van der Gugten (80 heb fod allan) i sefydlogi pethau a helpu'r Cymry tuag at sgôr o 310-8 erbyn diwedd y diwrnod cyntaf.
Bydd Morgannwg felly yn parhau gyda'u batiad cyntaf ar ddechrau'r ail ddiwrnod fore Gwener.