Y Bencampwriaeth: Sheffield Wednesday 0-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi cau'r bwlch gyda'r safleoedd dyrchafiad otomatig wedi buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn un o'r timau sy'n brwydo i osgoi cwympo i Adran Un.
Manteisiodd Jamal Lowe ar gamgymeriad amddiffynnol i roi'r Elyrch ar y blaen cyn i beniad Jay Fulton sicrhau'r triphwynt i dîm Steve Cooper.
Roedd y gôl gyntaf wedi dilyn cyfnod o chwarae blêr gan y ddau dîm. Cafodd Andre Ayew ei hun mewn sefyllfa ble gallai fod wedi anelu at y gôl ei hun yn dilyn symudiad cyflym a chadarn a gafodd y gorau o amddiffyn y gwrthwynebwyr.
Ond fe welodd bod Lowe mewn safle gwell fyth ac fe rwydodd yntau o'r croesiad i sgorio'i 12fed gôl o'r tymor - ei drydedd mewn dwy gêm - wedi 31 o funudau.
Cafodd y fantais ei dyblu wedyn yng nghanol yr ail hanner. Eiliadau ar ôl dod ar y maes fel eilydd, fe redodd Connor Roberts o'r cylch canol a chroesi'n gampus at Fulton a beniodd y bêl i'r rhwyd
Gyda phum gêm i fynd yn y Bencampwriaeth, mae Abertawe'n codi un safle i'r trydydd safle, saith pwynt y tu ôl i Watford - eu gwrthwynebwyr olaf o'r tymor a hynny oddi cartref yn Vicarage Road.