Tynnu coeden Dolig Aberteifi i lawr - ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Coeden Nadolig y tu allan i Neuadd y Dref yn AberteifiFfynhonnell y llun, Clive Davies
Disgrifiad o’r llun,

Y goeden Nadolig sydd wedi bod y tu allan i Neuadd y Dref yn Aberteifi ers mis Tachwedd

Mae disgwyl i goeden Nadolig Aberteifi gael ei thynnu i lawr bron i bedwar mis ar ôl i'r ŵyl ddod i ben.

Dim ond ar ôl i Lywodraeth Cymru ddod â'i chanllaw Aros Adref i ben y mis diwethaf y dechreuodd Cyngor Tref Aberteifi gynllunio i gael gwared ar y goeden a'i haddurniadau Nadolig.

Ond daeth problem arall i'r amlwg pan honnwyd bod colomennod yn nythu ynddi - gan ei gwneud hi'n anghyfreithlon wedyn i'w symud.

Fe gadarnhaodd maer y dref, Clive Davies, na chafwyd hyd i nythod yn y pen draw.

Mae'r newyddion yn golygu y bydd y goeden a'i haddurniadau'n cael eu tynnu erbyn dydd Llun, meddai Mr Davies.

Torri'r gyfraith

Byddai symud y goeden tra bod adar gwyllt yn nythu ynddi yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, er bod eithriadau.

Yn dilyn ymchwiliad, a gafodd ei gynnal ddydd Mawrth, canfuwyd nad oedd yna nythod yn y goeden ac er bod colomennod yn clwydo yn y goeden mae modd ei symud.

"Nid oes nyth ac ni fu nyth, felly byddwn yn tynnu'r goeden i lawr nawr diolch i Dduw", meddai Clive Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Clive Davies ei fod "yn eithriadol o hapus o glywed y newyddion" ac yn falch y gall Aberteifi nawr ddechrau cynllunio ar gyfer yr haf

"Pe bai aderyn yn nythu gydag wyau byddai'n rhaid i ni dynnu popeth arall ar wahân i'r goeden.

"Ni fyddai wedi bod yn broblem oherwydd gallem dynnu'r addurniadau i lawr a gadael y goeden.

"Byddai wedi bod yn lletchwith, dyna'r cyfan, oherwydd ni fyddai'n edrych yn wych.

"Gobeithio y gallwn symud ymlaen a chael Aberteifi yn barod ar gyfer yr haf."

Pynciau cysylltiedig