Dechrau addawol i Forgannwg yn erbyn Sussex

  • Cyhoeddwyd
Kiran CarlsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kiran Carlson oedd y seren i Forgannwg ddydd Iau gyda sgôr o 127 heb fod allan

Mae Morgannwg wedi cael dechrau addawol ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn erbyn Sussex yng Ngerddi Soffia ddydd Iau.

Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd cyfanswm o 285 wedi i Sussex benderfynu mai'r tîm cartref fyddai'n batio gyntaf.

I Kiran Carlson (127 heb fod allan) a David Lloyd (84) oedd y diolch am hynny, gyda fawr o help gan unrhyw fatwyr eraill ar wahân i Dan Douthwaite (36).

Fe gafodd Sussex ddechrau gwych i'w batiad cyntaf nhw yn hwyr ddydd Iau, gan gyrraedd sgôr o 99-0 erbyn diwedd y dydd.

Bydd Sussex felly'n parhau gyda'u batiad ar ddechrau'r ail ddiwrnod ym Mhencampwriaeth y Siroedd - 186 o rediadau ar ei hôl hi ond gyda 10 o wicedi yn weddill.

Pynciau cysylltiedig