Canrif Cooke yn rhoi dechrau da i Forgannwg yn Northants
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi cael dechrau da i'w gêm yn Sir Northampton diolch i berfformiad addawol gyda'r bat ar y diwrnod cyntaf ddydd Iau.
Llwyddodd y Cymry i gyrraedd sgôr o 324-7 wedi i Northants benderfynu mai'r ymwelwyr fyddai'n batio gyntaf.
Y capten Chris Cooke (107 heb fod allan) oedd y seren i Forgannwg, gyda pherfformiadau cryf gan David Lloyd (65) a Kiran Carlson (54) hefyd.
Bydd Morgannwg felly yn dechrau'r ail ddiwrnod trwy geisio ychwanegu at eu cyfanswm hyd yma cyn i Sir Northampton ddechrau eu batiad cyntaf nhw.