Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Wycombe Wanderers
- Cyhoeddwyd
Does dim yn y fantol i Gaerdydd mwyach y tymor yma, ond roedd yr ornest yn Stadiwm Caerdydd yn un o bwys mawr i'r ymwelwyr a hwythau ar waelod tabl y Bencampwriaeth.
Teithiodd Wycombe Wanderers, a gafodd gêm gyfartal yn erbyn Abertawe wythnos yn ôl, i Gymru gan wybod bod posib iddyn nhw syrthio i Adran Un ddydd Sadwrn.
Wedi'r canlyniad yng Nghaerdydd, a serch buddugoliaeth Birmingham City yn erbyn Derby, bydd angen gwyrth o hyd i atal cwympo.
Ond mae Caerdydd yn codi un safle i'r wythfed safle wedi i ddwy gôl Kieffer Moore dorri rhediad o bum gêm heb fuddugoliaeth.
Sgoriodd Kieffer Moore wedi 22 o funudau ar ôl cael y gorau o amddiffynnwr ac anelu am y gôl ei hun, er bod cyd-chwaraewyr eraill o'i flaen.
Crymanodd y bêl i gornel isaf y rhwyd gan sgorio'i 19fed gôl o'r tymor i'r Adar Gleision.
Roedd Caerdydd yn edrych yn gyfforddus ar y blaen cyn i Wycombe ddod yn gyfartal trwy gic o'r smotyn.
Gyda phedair munud yn weddill o'r hanner cyntaf, roedd yna dacl flêr gan y capten Scott Morrison yn y cwrt cosbi ar gyn-chwaraewr Caerdydd, Joe Jacobson.
Anelodd Jacobson yn bendant i ganol y rhwyd gan unioni'r sgôr a rhoi gobaith i'w dîm wrth iddyn nhw frwydro i osgoi syrthio o'r Bencampwriaeth.
Daeth ail gôl Moore wedi 71 o funudau i sicrhau'r triphwynt.
Yn fuan ar ôl dod i'r maes fel eilydd ym munudau ychwanegol y gêm fe welodd chwaraewr canol cau Cymru, Will Volkes gerdyn coch am dacl uchel.
Mae Caerdydd bedwar pwynt tu ôl i Reading sydd yn safle olaf y gemau ailgyfle, ac un pwynt uwchben Middlesborough yn y nawfed safle.