Cwpan yr Enfys y Pro14: Gweilch 36-14 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Cais Ifan Phillips i'r GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Phillips yn sgorio cais cyntaf y Gweilch

Mae pryder ynghylch anaf i gefnwr Cymru, George North wedi taflu cwmwl dros fuddugoliaeth y Gweilch dros y Gleision yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi'r Enfys y Pro14.

Cafodd ei anafu yn ail hanner y gêm ddarbi gyntaf yng Nghymru yn y twrnamaint newydd yma.

Tiriodd y bachwr Ifan Phillips ddwywaith ac roedd yna geisiau hefyd gan Keiran Williams, Matthew Aubrey, Sam Cross a Sam Parry i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Max Llewellyn ac Ellis Bevan wnaeth sgorio ceisiau'r Gleision.

George North yn gadael y maesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

George North yn gadael y maes

Roedd yna newidiadau hwyr i'r gystadleuaeth oedd am gynnwys pedwar tîm o Dde Affrica a 12 o Ewrop yn wreiddiol.

Ond oherwydd cyfyngiadau teithio o ganlyniad i'r pandemig, fe benderfynwyd hollti'r gystadleuaeth gydag un twrnamaint ar gyfer hemisffer y gogledd ac un arall ar gyfer hemisffer y de.