Ymchwiliad i ddwy farwolaeth yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio ar ôl i gyrff dau o bobl gael eu darganfod yng Nghasnewydd nos Sul.
Mae marwolaeth dynes a gafodd ei darganfod mewn cyfeiriad yn Monnow Way, Bettws, tua 18:15 nos Sul yn cael ei thrin fel un amheus.
Yn gynharach, am 16:40, fe syrthiodd dyn o faes parcio Kingsway yng nghanol y ddinas.
Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ond mae ditectifs yn cysylltu'r ddau ddigwyddiad.