Merched Cymru i wynebu Ffrainc yn ymgyrch Cwpan y Byd 2023
- Cyhoeddwyd

Un o sêr Cymru, Jess Fishlock, yn chwarae'n erbyn Denmarc yn gynharach ym mis Ebrill
Mae Cymru wedi cael eu rhoi yn yr un grŵp rhagbrofol â Ffrainc ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd Merched 2023.
Bydd tîm Gemma Grainger hefyd yn wynebu Slofenia, Groeg, Kazakhstan ac Estonia yng Ngrŵp I.
Mae Ffrainc yn bedwerydd ar restr detholion y byd FIFA, gyda Chymru yn safle rhif 32.
Fe fydd y gemau'n digwydd rhwng mis Medi 2021 a Medi 2022.
Bydd y naw enillydd grŵp yn gymwys ar gyfer y rowndiau terfynol tra bydd y naw sy'n ail yn cystadlu yn y gemau ail gyfle a fydd yn cael eu cynnal ym mis Hydref 2022.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd Grainger ei phenodi fel rheolwr tîm cenedlaethol y merched ym mis Mawrth, a dyma fydd ei hymgyrch lawn gyntaf wrth y llyw.
Mae hi'n olynu Jayne Ludlow a adawodd ym mis Ionawr wedi iddi fod yn gyfrifol am dîm Cymru am saith mlynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021