Buddugoliaeth ysgubol i Forgannwg yn erbyn Caint
- Cyhoeddwyd
Cafodd tîm criced Morgannwg eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn yn erbyn Caint ddydd Gwener, ond roedd yn fuddugoliaeth ysgubol.
Fe ddechreuodd Morgannwg ail ddiwrnod y gêm ar 109 am 2, a heblaw am gyfraniad o 62 gan David Lloyd doedd y batiad ddim yn un disglair.
Serch hynny fe lwyddodd y tîm cartref i gyrraedd 197 yn eu batiad cyntaf, ac yna daeth cyfle arall i'r bowlwyr serennu.
Michael Hogan oedd y gorau ohonyn nhw, gan gipio 5 wiced am 28 rhediad yn unig wrth i fatiad Caint ddymchwel.
Pan gollon nhw'u wiced olaf gyda'r cyfanswm ar 74, roedd hynny'n gadael Morgannwg angen 16 yn unig i ennill y gêm.
Fe sicrhaodd David Lloyd eu bod yn gwneud hynny, gan sgorio 19 oddi ar 8 pelen yn unig, a gorffen y fuddugoliaeth gyda chwech anferth dros y ffin.
Buddugoliaeth felly i Forgannwg, a hynny o 10 wiced.
Morgannwg v. Caint - Sgôr terfynol
Caint - (batiad cyntaf) 138
(ail fatiad) 74
Morgannwg - (batiad cyntaf) 197
(ail fatiad) 19 heb golli wiced
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021