Layton Maxwell: Cyn bêl-droediwr yn rhan o gang gwerthu cocên
- Cyhoeddwyd
Mae cyn bêl-droediwr Caerdydd ac Abertawe yn wynebu carchar ar ôl cyfaddef i fod yn rhan o gang gwerthu cyffuriau gwerth £6m.
Trodd cyn-chwaraewr dan-21 Cymru, Layton Maxwell, 41, yn ddeliwr cyffuriau ar ôl i'w yrfa broffesiynol ddod i ben.
Cafodd ei arestio fel rhan o ymchwiliad ledled y DU i droseddau cyfundrefnol a ddaeth o hyd i werth miliynau o bunnoedd o gyffuriau ac arian parod.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau i bledio'n euog i gynllwyn i gyflenwi cocên, sy'n gyffur Dosbarth A.
Daeth y chwaraewr canol cae, a anwyd yn Llanelwy, trwy'r system ieuenctid yn Lerpwl gyda sêr Lloegr, Steven Gerrard a Jamie Carragher.
Sgoriodd gôl ar ei ymddangosiad cyntaf yn Anfield yn 1999, cyn cael ei ryddhau gan y clwb yn 2001.
Ond cafodd Maxwell ei arestio'r llynedd mewn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) o'r enw Operation Venetic.
Cafodd cyrchoedd eu cynnal ar ôl i swyddogion ganfod negeseuon a oedd yn cael eu hanfon rhwng arweinwyr gangiau.
£2.5m mewn arian parod
Adeg y cyrchoedd, dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dave Thorne fod y rhai yn ne Cymru yn unig wedi arwain at ddod o hyd i "ddwy dunnell o gyffuriau a miliynau o bunnoedd mewn arian parod".
Ychwanegodd: "Mae swyddogion wedi atafaelu 60kg o gocên, crac cocên a heroin gyda gwerth stryd amcangyfrifedig o £6,000,000. Yn ogystal, atafaelwyd mwy na £2.5m mewn arian parod."
Cafodd Maxwell, o Rhiwbeina, Caerdydd, ei ryddhau ar fechnïaeth i ddychwelyd i'r llys ym mis Gorffennaf i wrandawiad pellach.
Ar ôl gadael Abertawe fe dreuliodd Maxwell amser gyda nifer o glybiau yng Nghymru, gan gynnwys Bangor, Caerfyrddin, Y Barri a Chaernarfon.
Ar ôl ymddeol o bêl-droed daeth yn beiriannydd gyda Vodafone a bu hefyd yn gyfrifol am Cardiff Draconians yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru.