Cam pwysig at ailagor hen reilffordd drwy Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Ar ôl 30 mlynedd o ymgyrchu, mae grŵp sy'n ceisio ailagor yr hen reilffordd rhwng Amlwch a Gaerwen ar Ynys Môn wedi cymryd cam enfawr at eu nod.
Mae grŵp Lein Amlwch wedi sicrhau les ar y lein am 99 mlynedd - cytundeb fydd yn agor y drws i ddenu grantiau ar gyfer y cynllun.
Roedd cadeirydd y grŵp, Walter Glyn Davies, ar y daith trên olaf drwy ganol Ynys Môn ym mis Rhagfyr 1964.
Erbyn hynny, roedd o eisoes wedi dechrau ar ei ymgyrch bersonol i ailagor y lein.
Cafodd y rheilffordd 17 milltir o hyd rhwng Gaerwen ac Amlwch ei chau fel rhan o doriadau Beeching, gafodd effaith ar reilffyrdd a gorsafoedd ledled y wlad.
Ym mis Tachwedd 1964, roedd Mr Davies wedi ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth ar y pryd yn apelio arno i ail-ystyried y penderfyniad i gau'r lein.
"Fan'na nesh i ddechrau, a dyna pryd nesh i'r penderfyniad na fyddwn i'n rhoi'r gorau iddi nes byddwn i wedi ei chael hi," meddai.
"Yn naturiol mae pobl yn gofyn o lle 'da chi am gael y pres. Nid faint sydd yn y banc sy'n bwysig, ond pa lwybrau sydd 'na i chi fynd am grantiau, ac yn hynny o beth, rŵan mae'r drws wedi agor lled y pen."
Mae Ifor Humphreys yn un o'r degau o wirfoddolwyr sydd wedi bod wrthi'n adfer y trac yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae o'n credu y bydd y cynllun yn hwb economaidd sylweddol i'r ynys.
"Mae'n bwysig ofnadwy i Ynys Môn am nad oes yna llawer o waith yma ar y funud, efo Wylfa ddim yn digwydd," meddai. "Mae'n bwysig bod ni'n creu gwaith i bobl ifainc yn y dyfodol."
Ac yn ôl gwirfoddolwr arall, Richard Hughes Jones - cyn-yrrwr trên ei hun - mi fydd y prosiect hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.
"Cofiwch, ddim jest rheilffordd o Amlwch i Gaerwen fydd hon," meddai. "Unwaith rydach chi wedi cyrraedd y prif lein yn Gaerwen, fedrwch chi fynd i unrhyw le."
Mae 'na waith sylweddol i'w wneud eto cyn y bydd trenau'n teithio'n rheolaidd drwy ganol Ynys Môn. Ond o'r diwedd, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, mae'r arwyddion yn fwy ffafriol na fuon nhw erioed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2014