Y Bencampwriaeth: Watford 2-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Andre Gray yn dathlu gôl gyntaf Watford
Mae Abertawe wedi gorffen yn y pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth ar ôl colli i Watford ar ddiwrnod olaf y tymor.
Mae'n golygu y byddan nhw'n wynebu Barnsley dros ddau gymal yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle i geisio cyrraedd yr Uwch Gynghrair, gyda'r enillydd yn wynebu Brentford neu Bournemouth yn y ffeinal.
Roed Watford eisoes wedi sicrhau eu dyrchafiad rai wythnosau yn ôl, ac fe aethon nhw ar y blaen ar ôl 56 munud diolch i gôl gan Andre Gray.
Daeth Steve Cooper â phedwar eilydd i'r cae toc wedi hynny i geisio newid y gêm i'r Elyrch, ond seliwyd y fuddugoliaeth gan ergyd wych Isaac Success dair munud o'r diwedd.