'Anarferol iawn i Frankie fod i ffwrdd mor hir â hyn'
- Cyhoeddwyd
Mae brawd dyn ifanc o Ynys Môn sydd ar goll ers 10 diwrnod wedi disgrifio pryder cynyddol y teulu.
Methodd Frantisek Morris, sy'n 18 oed ac yn cael ei alw'n Frankie, â dychwelyd i'w gartref yn Llandegfan ar ôl cychwyn ar droed o barti yn ardal Waunfawr, ger Caernarfon fore Sul, 2 Mai.
Mae lluniau CCTV wedi ei ddangos yn gwthio beic ym Mrynrefail, ger Llanberis, ar gyrion Penisarwaun ac yna tu allan i dafarn y Vaynol Arms ym Mhentir, ger Bangor rhwng 13:10 a 13:30 ar yr un diwrnod.
Cafodd ei feic ei darganfod maes o law wedi ei daflu ger y tŷ tafarn, wedi i'r teulu drefnu archwiliad yn ardal Pentir.
Mae ganddo "duedd i grwydro", yn ôl ei frawd Robin, gan fynd allan heb roi gwybod i'w dad, "ond mae'n anarferol iawn iddo fod i ffwrdd mor hir â hyn".
Dywedodd ei fod yn hoff iawn o gerdded ar hyd y bryniau, ond "dwi'm yn meddwl bydde fo'n normal iddo gerdded cyn belled [ag o Waunfawr i Landegfan] heb gysylltu 'efo rhywun, neu fod 'efo rhywun".
"Nathon ni ddechra poeni ddydd Llun a ffonio'r heddlu ar y dydd Mawrth."
Dywedodd bod y teulu "yn amlwg yn poeni ac mewn gofid... mae jest mor groes i'w gymeriad iddo wneud hyn.
"Mae'n eitha' active ar y cyfryngau cymdetihasol, mae o hyd yn tynnu llunia' - dwi methu deall pam na fysa fo wedi trio charjo'i ffôn.
"Mae'n eitha' o gwmpas ei betha' yn nherma' bod allan yn yr awyr agored... dydi o ddim y math o berson i fynd ar goll."
Dywedodd Robin bod "pob sefyllfa bosib yn mynd trwy fy mhen i ar hyn o bryd" ond mae'n amau a fyddai wedi cael damwain rhwng Pentir a Bangor "gan fod hwnnw ond yn fater o gerdded ar hyd lonydd cefn".
Mae'n amheus a fyddai ei frawd, "sy' ddim y person mwyaf hyderus yn gymdeithasol", wedi derbyn cynnig o bas mewn car gan berson dieithr.
Nid yw chwaith yn gallu cynnig esboniad pam y gallai Frankie fod wedi penderfynu cael gwared ar ei feic ym Mhentir.
Cyn i'r lluniau CCTV ddod i'r amlwg, roedd y chwilio cychwynnol wedi canolbwyntio ar fryniau a chwareli o amgylch Llanberis.
Roedd aelodau Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol yn ardal Pentir ddydd Mawrth gan ddefnyddio cŵn a drôn.
Dywed Robin ei fod yn gwerthfawrogi ymdrechion "pawb dwi'n eu nabod a phobl dwi ddim yn eu 'nabod" i geisio dod o hyd i Frankie.
Mae'r Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i bobl yr ardal fod yn wyliadwrus: "Be sy' na yn eu hardaloedd nhw, sied yr ardd, oes na rywun di edrych fanno? Ydy rhywun 'di edrych ar eu tiroedd ac yn y blaen?
"A hefyd i amaethwyr yn yr ardal yna, ydyn nhw wedi gweld Frankie neu r'wbath ella ma' nhw'n weld yn amheus, ac os ydyn nhw wedyn yn gallu rhoi rhywfaint o wybodaeth i ni fel heddlu i ni gael llinellau ymchwil ychwanegol."
Mae Robin yn ategu'r apêl yna, gan ddweud ei fod ond eisiau gwybod bod ei frawd yn ddiogel.
Mewn neges at Frankie, dywedodd: "Dim ots os wt ti eisiau aros allan yn yr awyr agored - 'dwi jest isio gw'bod bo' ti'n fyw, felly hefyd ei dad, a'i chwiorydd a'i fam."