Diflaniad Frankie Morris: Arestio tri o bobl
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio tri o bobl mewn cysylltiad â diflaniad dyn ifanc bythefnos yn ôl.
Cafodd Frantisek "Frankie" Morris, 18, ei weld ddiwethaf ger y Vaynol Arms, Pentir, ddydd Sul, 2 Mai, ddiwrnod ar ôl mynd i barti mewn chwarel ger Waunfawr.
Dywedodd yr heddlu fod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Cafodd ail ddyn a dynes eu dal ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder, meddai'r datganiad.
Mae'r heddlu hefyd wedi cau'r ffordd o Bont Felin, Pentir sy'n mynd tuag at Waen Wen.
Apeliodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn ar nifer o yrwyr ceir penodol i gysylltu â nhw hefyd, gyda'r lluniau'n cael eu rhannu ar gyfrifon yr heddlu ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi siarad â beiciwr a gafodd ei weld ar deledu cylch cyfyng yn yr ardal ac nad oedd bellach yn rhan o'u hymchwiliad.
Ond maen nhw'n dal yn awyddus i siarad â thri beiciwr a gafodd eu gweld ger y dafarn tua 13:45 y dydd Sul hwnnw.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un a oedd yn y digwyddiad yn chwarel Waunfawr ddydd Sadwrn Mai 1 i gysylltu â nhw.
Cafodd Frankie ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng yn gwthio ei feic ger y Vaynol Arms.
Mae llawer o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan o'r chwilio am Mr Morris, gan ddefnyddio drônau a chŵn.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Baines sy'n cynrychioli ward Pentir: "Dros y bythefnos diwethaf dwi'n ymwybodol bod chwilio mawr wedi bod am y gŵr ifanc ac mae llawer iawn o bobl wedi bod yn helpu'r heddlu.
"Mae datblygiadau neithiwr yn rhoi golau gwahanol ar y mater ac mae pawb yn poeni'n arw ac yn drist iawn.
"Mae'n meddyliau gyda'r teulu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021