Carcharu dau am gynllunio troseddau rhyw yn erbyn plant

Roedd Tracy Turner yn gynorthwyydd theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson o Gaerdydd - un ohonynt yn weithiwr iechyd - wedi eu carcharu am gynllunio troseddau rhyw yn erbyn plant.
Cafodd Tracy Turner, 52 oed o ardal y Rhath - sy'n gynorthwyydd theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru - ddedfryd o 12 mlynedd o garchar gyda dwy flynedd arall ar drwydded.
Doedd yna ddim cysylltiad rhwng y troseddau a'i swydd.
Cafodd Stuart Compton, 46 oed o ardal Cathays, ddedfryd oes o garchar, ond bydd modd iddo wneud cais am barôl ar ôl saith mlynedd.
Wrth ddedfrydu dywedodd y barnwr mai "nid ffantasi" oedd eu cynllwynau.

Plediodd Stuart Compton yn euog i chwe chyhuddiad o drefnu i gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant
Clywodd y gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful fod y ddau wedi cyfnewid dros 100,000 o negeseuon ar Whatsapp lle'r oedden nhw'n trafod cyflawni gweithredoedd rhyw ar blant.
Roedd yna dri o blant ganddyn nhw dan sylw, dau ohonyn nhw'n wyth oed a'r llall yn 12.
Clywodd y llys fod Compton a Turner wedi trafod lleoliadau posibl ar gyfer ymosodiadau rhyw ciaidd, ac iddyn nhw ddynodi sied wag ger lle'r oedden nhw'n byw fel lleoliad addas.
Buon nhw'n trafod sut i sicrhau na fyddai plentyn yn sgrechian yn ystod ymosodiad, ac yn trafod y canlyniadau posib gan gynnwys y posibilrwydd y byddai plentyn yn marw.
Clywodd y llys i Compton ddweud y byddai'n cymryd cyfrifoldeb pe bai hynny'n digwydd.
'Obesiwn yna'n fwriad pendant'
Er na wnaethon nhw ymosod yn gorfforol ar unrhyw blentyn roedd y bwriad yn glir, meddai Matthew Cobb ar ran yr erlyniad.
"Roedd ffantasi wedi troi'n obsesiwn ac yna'n fwriad pendant", meddai.
Roedd y ddau wedi pledio'n euog i chwe chyhuddiad o drefnu i gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant mewn gwrandawiad blaenorol.
Fe blediodd Tracy Turner hefyd yn euog i ddau gyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blentyn.
Wrth ddedfrydu fe ddywedodd y barnwr Tracey Lloyd Clarke: "Nid ffantasi oedd eich trafodaethau.
"Roeddech chi'ch dau yn bwriadu gwneud yr hyn roeddech chi wedi ei drafod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr