Gêm gyfartal i Forgannwg yn erbyn Sir Efrog
- Cyhoeddwyd
Cyfartal oedd hi rhwng Morgannwg a Sir Efrog ddydd Sul wedi i'r glaw gael cryn effaith ar y chwarae.
Roedd Sir Efrog wedi gobeithio am fuddugoliaeth ond fe roddodd 88 rhediad Kiran Carlson ar ei ben-blwydd yn 23 oed ergyd i'r gobeithion hynny.
Un wiced a gafodd yr ymwelwyr wedi 13 pelawd cyn cytuno ar gêm gyfartal.
Fe ddechreuodd y chwarae am 16:15 gyda 28 pelawd yn weddill ac roedd yn rhaid i'r ymwelwyr sicrhau y saith wiced oedd angen arnynt yn fuan. Fe ddechreuon nhw'n dda gyda Ben Coad yn cael gwared ar David Lloyd yn y bedwaredd belawd.
Roedd perfformiad Carlson yn gryf eto ddydd Sul wrth iddo sgorio 50 o rediadau oddi ar 46 pelen.
Wedi i'r bowlwyr fethu cipio unrhyw wiced rhaid oedd bodloni ar gêm gyfartal - gêm a gollodd gwerth deuddydd o chwarae oherwydd y glaw.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Sir Efrog ar frig Grŵp Tri - pump pwynt ar y blaen i Sir Gaerhirfryn ond maent wedi chwarae un gêm yn fwy.
Dywedodd hyfforddwr Morgannwg Matthew Maynard wrth BBC Cymru ei fod yn siomedig bod y tywydd wedi amharu ar y gêm ond ei fod yn falch o berfformiad Kiran Carlson.
Mae Morganwg yn drydydd yn y grŵp o chwech.