Ffigyrau diweithdra Cymru'n parhau'n sefydlog

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gwaith

Arhosodd diweithdra yng Nghymru yn sefydlog yn ystod tri mis cyntaf eleni wrth i gyfyngiadau coronafeirws barhau.

Roedd 68,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, sy'n cynrychioli 4.4% o bobl dros 16 oed.

Mae hynny'n is na chyfradd y DU o 4.8% am yr un cyfnod.

Mae 1,000 yn fwy na'r tri mis blaenorol ond 19,000 yn fwy na thri mis cyntaf y llynedd cyn i'r pandemig daro.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, Cymru welodd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra ar ôl Llundain.

Dangosai ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd y bu cwymp mawr, o 34,000, yn nifer y bobl sy'n cael eu cyfrif yn anactif yn economaidd.

Hynny yw, pobl sydd ddim yn gweithio ac yn methu â gweithio - oherwydd er enghraifft eu bod yn sâl neu'n gofalu am bobl eraill neu'n fyfyrwyr amser llawn.

Mwy o swyddi iechyd a gofal

Gallai hynny egluro pam bod 26,000 yn fwy o bobl wedi'u cyflogi yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth na thri mis ynghynt - rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr - ond pam nad yw'r diweithdra wedi newid yn sylweddol.

Cymru welodd y cynnydd mwyaf mewn swyddi o holl wledydd y DU ers Rhagfyr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Wrth edrych ar ffigyrau ledled y DU, fe wnaeth y nifer o bobl sy'n cael eu cyflogi gan gwmnïau gynyddu'r gyson drwy Ebrill wrth i'r cyfyngiadau lacio.

Roedd y cynnydd mwyaf yn sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a gwaith gweinyddol.

Roedd y cwymp mwyaf yn y sector lletygarwch.

Pynciau cysylltiedig