123,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
diweithdraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prif ysgrifennydd undeb TUC Cymru bod y ffigyrau yn cuddio'r gwir sefyllfa yma

Fe wnaeth nifer y bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru gynyddu i 123,000 yn y tri mis hyd at fis Chwefror.

Mae hynny'n gyfradd o 4.8%, o'i gymharu â 4.9% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd.

Mae'r ffigwr diweddaraf o 123,000 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol 3,000 yn uwch na'r tri mis blaenorol, a 18,000 yn uwch na'r un cyfnod y llynedd.

Ond mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos bod mwy o bobl mewn gwaith hefyd - 12,000 yn fwy na'r tri mis hyd at fis Tachwedd a 5,000 yn fwy na'r un cyfnod y llynedd.

Mae nifer y di-waith a'r nifer sydd mewn gwaith yn gallu cynyddu dros yr un cyfnod pan fo nifer y bobl sydd ar gael i weithio yn cynyddu.

Dywedodd prif ysgrifennydd undeb TUC Cymru - sy'n cynrychioli tua 400,000 o weithwyr - bod y sefyllfa, er yn edrych yn weddol sefydlog, "mewn gwirionedd yn her enfawr yng Nghymru".

"Mae'r ffigyrau yn cuddio'r ffaith bod bywydau gwaith degau o filoedd o bobl ledled Cymru wedi dod i stop am y flwyddyn ddiwethaf," meddai Shavanah Taj.

"Hyd yn oed gyda chefnogaeth y cynllun ffyrlo, i nifer mae hyn wedi golygu ansicrwydd ariannol a phoen meddwl am y dyfodol."