Gemau ail gyfle: Casnewydd 2-0 Forest Green Rovers
- Cyhoeddwyd

Matt Dolan yw prif sgoriwr Casnewydd y tymor hwn gyda saith gôl
Mae Casnewydd wedi cymryd camau breision tuag at sicrhau lle yn ffeinal y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Forest Green.
Daeth y fuddugoliaeth wrth i gefnogwyr gael dychwelyd i wylio chwaraeon yng Nghymru.
Aeth yr Alltudion ar y blaen ar ôl 31 munud, ergyd gadarn Matt Dolan o 25 lath yn taro cefn y rhwyd.
Lewis Collins - gyda'i frawd hŷn Aaron yn chwarae i'r ymwelwyr - sgoriodd yr ail wedi'r egwyl.
Daeth cyfle gorau Forest Green i Aaron Collins ond aeth ei beniad heibio'r postyn.
Roedd yna 900 o gefnogwyr cartref yn y gêm, y tro cyntaf i dorf fynychu achlysur chwaraeon yng Nghymru mewn 438 o ddiwrnodau.