Diwrnod byr a gwlyb i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Ychydig iawn i chwarae a gafwyd ar ddiwrnod cyntaf y gêm rhwng Caint a Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Iau.
Fe gollwyd y bore cyfan i'r tywydd, a rhan fwyaf y prynhawn gydag ond 22 pelawd yn bosib drwy'r dydd.
Morgannwg alwodd yn gywir a dewis maesu, ond roedd y penderfyniad yna'n ymddangos fel camgymeriad wrth i fatwyr agoriadol y tîm cartref sgorio'n drwm.
Ond cyn diwedd y dydd daeth cyfnod o fowlio ysbrydoledig gan Timm van der Gugten i roi gobaith i'r ymwelwyr.
Yn ei bedair pelawd, llwyddodd van der Gugten i gipio dwy wiced - gan gynnwys y prif sgoriwr Ollie Robinson - heb ildio'r un rhediad.
Pan ddaeth y chwarae i ben y gynnar, roedd Caint wedi cyrraedd 70 am 2 wiced.