'Hanner cynllun yn unig' o ran ailddechrau rasys
- Cyhoeddwyd
"Hanner cynllun" yn unig sydd yna yng Nghymru o ran ailddechrau cynnal rasys marathon a triathlon, yn ôl cwmni o Abertawe sy'n eu trefnu.
Mae cwmni Tough Runner UK yn cynnal digwyddiadau yn Lloegr ers mis Mawrth, ond mae'n ofni na fydd yn bosib gwneud hynny yng Nghymru tan 2022.
Hyd at 50 o bobl sy'n cael cymryd rhan mewn digwyddiadau wedi eu trefnu yn yr awyr agored yng Nghymru, ond dyw digwyddiadau llai ddim yn gynaliadwy yn ariannol, yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Adam Newton.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried caniatáu digwyddiadau ar gyfer mwy na 50 o bobl o 4 Mehefin.
"Mae yna ddigwyddiadau nawr yn Lloegr gyda thros fil o gystadleuwyr," meddai Mr Newton. "Mae'n bosib cynnal digwyddiad yn Yr Alban gyda 500 o bobl, ond dyw 50 o bobl ar gyfer digwyddiad tu allan yn ddim byd i ni.
"Dydy e ddim ei werth e yn ariannol i ni gynnal digwyddiad o'r faint yna.
"Rhaid cael ffordd ymlaen yn ei lle i wybod bod modd cynnal digwyddiadau rhedeg mwy.
"Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau o ran digwyddiadau prawf, ond dydyn nhw heb ddweud beth yw'r cam nesaf - hanner cynllun yw e."
Dywed Mr Newton fod y sefyllfa wedi ei orfodi i "feddwl yn greadigol" a'i fod yn ystyried cynnal digwyddiad yn Lloegr yn benodol ar gyfer pobl o Gymru.
Mae'n ystyried "cael cannoedd o gystadleuwyr o Gymru at ei gilydd, efallai mewn ras 10k neu duathlon, i ddangos bod modd gwneud hyn yn ddiogel, a dylai fod yn digwydd yng Nghymru."
Mae cynllun peilot Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau lle mae naw o ddigwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes yn cael eu cynnal gyda thorfeydd unwaith yn rhagor.
Y nod yw caniatáu i bobl fynychu digwyddiadau mewn ffordd ddiogel wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws lacio.
Dywedodd Mr Newton bod y cwmni wedi cynnal digwyddiad yn ardal y Cotswolds y penwythnos diwethaf a bod nifer o bobl o Gymru wedi cymryd rhan.
"Mae Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yn annog pobl i rasio yn Lloegr, gan fod dim digwyddiadau a dim amserlen yng Nghymru," meddai.
Roedd y digwyddiad diwethaf i'r cwmni ei gynnal yng Nghymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol ym Mawrth 2020.
Dywed Mr Newton eu bod wedi gohirio naw digwyddiad yng Nghymru yn y 14 mis diwethaf, gan effeithio ar oddeutu 12,000 o gystadleuwyr.
Mae'r cwmni wedi colli dros £500,000 o refeniw yn sgil methu â chynnal digwyddiadau.
'Saffach nag eistedd mewn tŷ tafarn'
"Mae'n bosib cynnal y digwyddiadau yma'n ddiogel, gan gadw pellter diogel," ychwanegodd Mr Newton.
"Rydyn ni'n dechrau rasys yn Lloegr fesul pum eiliad. Mae digwyddiadau chwaraeon fel hyn, yn fy marn i, yn fwy diogel nag eistedd mewn tŷ tafarn."
Mae hyd at chwe pherson o aelwydydd gwahanol wedi cael cwrdd dan do mewn tafarndai a bwytai yng Nghymru ers 17 Mai.
"Gallai trefnwyr gasglu manylion pawb at ddibenion olrhain ac os mae unrhyw beth yn codi fe allwn ni gymryd camau yn syth," meddai Mr Newton.
"Hyd yn hyn, dydyn ni heb gael yr un achos [coronafeirws posib] na rheswm i gymryd camau oherwydd mae'r rhan fwyaf o athletwyr yn gydwybodol iawn. Os oes gyda nhw symptomau, maen nhw wedi cadw draw."
Y llynedd, daeth pedwar corff sy'n trefnu digwyddiadau chwaraeon torfol - Front Runner Events, Run4Wales, Activity Wales a Camu i'r Copa / Always Aim High - at ei gilydd a ffurfio grŵp MSO Cymru.
Nod yw grŵp yw cynrychioli'r diwydiant ac amlinellu trywydd er mwyn ailddechrau cynnal rhai o rasys mwyaf Cymru yn ddiogel.
"Mae'r mis nesaf yn mynd i fod yn allweddol o ran be ellir digwydd yng Nghymru," meddai Matt Newman, prif weithredwr Run4Wales a chadeirydd MSO Cymru. "Rydym yng nghanol y digwyddiadau prawf yma.
"Y digwyddiad prawf yn ein maes ni yw triathlon yn Abergwaun ar 12 Mehefin... byddwn yn cynnal hwnnw gyda 500 o gystadleuwyr a dim gwylwyr.
"Mae'n amhosib dweud a fydd pethau'n ailagor o ran digwyddiadau mwy'r haf yma a hefyd yr awdurdodau lleol sy'n penderfynu, felly bydd hynny'n ffactor pwysig o ran be ellir ei gynnal.
"Adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru ar 4 Mehefin yw'r allwedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r prif weinidog wedi dweud os fydd sefyllfa iechyd cyhoeddus yn dal yn bositif, adeg yr adolygiad tair wythnos nesaf ddechrau Mehefin, byddwn yn ystyried symud i Lefel 1 [y cynllun rheoli Covid-19], a fyddai'n caniatáu cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mwy, ar sail canlyniadau'r digwyddiadau prawf sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021