Gemau ail gyfle: Forest Green Rovers 4-3 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Kevin EllisonFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Kevin Ellison yn dathlu gol gyntaf y noson i Gasnewydd

Fe fydd Casnewydd yn wynebu Morcambe yn ffeinal gemau ail gyfle Adran Dau - ar ôl curo Forest Green 5-4 ar ôl dau gymal.

Roedd Casnewydd 2-0 ar y blaen ar ôl y cymal cyntaf, ond diflannodd hynny yn y deg munud cyntaf wrth i Ebou Adams ac Aaron Collins rwydo i'r tîm cartref.

Aeth pethau o ddrwg i waeth gyda Nickky Cadden yn rhoi Forest Green ar y blaen 3-0 ar y noson a 3-2 dros y ddau gymal.

Trodd y fantais yn ôl i'r Alltudion, gyda Kevin Ellison a Joss Labadie yn taro cefn y rhwyd - 4-3 i Gasnewydd dros y ddau gymal.

Ond tarodd Jamille Matt yn ôl, gan sicrhau fod y gêm yn mynd i amser ychwanegol.

Nicky Maynard, ar ôl 119 munud o chwarae, sgoriodd y gôl holl bwysig sy'n golygu taith i Wembley a chyfle i Gasnewydd esgyn i'r Adran Gyntaf.