Sarjant 'yn rhy barod' i chwistrellu pobl yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad camymddygiad heddlu wedi clywed sut y defnyddiodd sarjant chwistrell ar unigolion yn y ddalfa pan nad oedd yn angenrheidiol neu'n rhesymol i'w defnyddio.
Clywodd y gwrandawiad ym Mae Colwyn bod Sarjant 2399 Dawson yn "rhy barod" i chwistrellu pobl yn nalfa'r heddlu yng Nghaernarfon, fel pe bai'n eu cosbi am fod yn aflonyddgar yn eu celloedd.
Mae'r Sarjant Dawson yn wynebu 15 o honiadau o ddefnyddio chwistrell Captor ar sawl carcharor yn y ddalfa rhwng Mai 2018 a Chwefror 2019 "pan nad oedd y fath rym yn angenrheidiol, yn gymesur neu'n rhesymol dan yr holl amgylchiadau".
Dywedodd cyfreithiwr y Sarjant Dawson ei fod yn cydnabod iddo ddefnyddio'r chwistrell ond mae'n gwadu iddo wneud hynny yn afresymol.
Math o nwy CS yw chwistrell Captor, sy'n amharu ar y llygaid, trwyn a'r geg, ac yn achosi teimlad o losgi ar y wyneb. Mae'n cael ei ddefnyddio gan heddluoedd i analluogi a ffrwyno pobl.
Wrth amlinellu'r achos yn ei erbyn, dywedodd y bargyfreithiwr Barnabas Branston bod y Sarjant Dawson yn "rhy barod" i chwistrellu. Dywedodd ei fod ar sawl achlysur "wedi ei defnyddio'n agosach na'r pellter isaf sy'n cael ei argymell, ac o du ôl i ddrysau cell ar glo".
'Modfeddi'n unig i ffwrdd'
Cafodd sawl fideo CCTV eu dangos, gan gynnwys un o ddyn - 'Mr K' - a gafodd ei gludo i'r ddalfa ar ôl bygwth swyddogion a'i arestiodd.
"Cafodd Mr K ei gymryd i'r llawr a'i chwistrellu o ychydig fodfeddi'n unig i ffwrdd," meddai Mr Branston.
"Roedd ei ddwylo mewn cyffion o'i flaen ar y pryd ac roedd dau swyddog arall yn y gell. Roedd hwn fwy tebygol o fod yn fesur cosbol nag unrhyw beth angenrheidiol, cymesur neu resymol.
Cafodd carcharor arall, 'Mr F', ei chwistrellu pan wrthododd â thynnu ei ddillad isaf wrth newid.
Clywodd y gwrandawiad bod lluniau'n dangos y Sarjant Dawson yn estyn ei fraich a'i chwistrellu o lai na medr i ffwrdd.
Yn ddiweddarach, mae'n bosib ei glywed yn dweud: "Dyna'r ateb, bob tro. Roedden ni gyd yn gwybod bod hynny am ddigwydd, yn doeddan ni?"
Dywedodd Mr Branston bod yr achos hwn hefyd yn achos o ddefnydd "diangen ac anghymesur" o'r chwistrell.
"Mae pob un o'r 15 o honiadau'n esiampl o ddefnydd anghymesur o rym ar ran y swyddog hwn," ychwanegodd. "Roedd digonedd o gyfleoedd i ymyrryd. Y peth amlwg, yn syml, yw siarad gyda charcharor i'w wneud yn llai aflonydd."
'Lle peryglus'
Dywedodd cyfreithiwr y Sarjant Dawson, Nicholas Walker bod y ddalfa'n "creu heriau unigryw" i swyddogion sy'n gweithio yno.
"Mae'n le peryglus ble mae llawer o bobl ofnus neu dreisgar yn sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa sy'n eu hwynebu.
"Ni all CCTV ddangos sut mae'n teimlo i fod yn esgidiau rhywun, yr olwg yn eu llygaid, eu nerth.
"Mae CCTV yn rhoi golwg o bell artiffisial o'r teimlad yn y fan a'r lle. Mae'r Sarjant Dawson yn dadlau bod ei ddefnydd o rym yn gymesur."
Bydd nifer o'r bobl a gafodd eu chwistrellu'n rhoi tystiolaeth i'r gwrandawiad, a fydd yn para hyd at bythefnos.