Llofruddiaeth Tomasz Waga: Arestio dau ddyn ym Mharis
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ym Mharis mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 23 oed yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd ddiwedd Ionawr.
Cafodd y dynion 26 a 27 oed eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Tomasz Waga yn dilyn ymgyrch Heddlu De Cymru ar y cyd â'r Ganolfan Cydlynu Trosedd Rhyngwladol a'r Asiantaeth Trosedd Genedlaethol.
Mae'r llu'n "gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn Y Goron i geisio estraddodi'r ddau o Ffrainc i'r Deyrnas Unedig yn syth".
Mae pedwar o ddynion eisoes wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Mr Waga, oedd wedi dioddef ymosodiad "hir" cyn cael ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ar y stryd.
Mae Heddlu'r De'n parhau i chwilio am bedwar dyn arall ar amheuaeth o fod â rhan yn yr achos.
Roedd dau - Gledis Mehalla, 19, ac Artan Pelluci, 29 - yn byw yn ardal Cathays, Caerdydd.
Roedd cyfeiriadau mwyaf diweddar y ddau arall yn Llundain - Elidon Elezi, 22, oedd yn byw yn East Finchley, a Ledjan Qevani, 33, oedd yn byw yn Tottenham.
Mae arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Prifarolygydd Mark O'Shea wedi apelio'n uniongyrchol ar y dynion yma "i wneud y peth cywir" a mynd ar yr heddlu.
Rhybuddiodd na fyddai ffiniau rhyngwladol "yn rhwystr" rhag dod o hyd i bobl sydd dan amheuaeth o lofruddiaeth yn y DU a bod "cysylltiadau rhagorol gyda chydweithwyr gorfodi'r gyfraith ar draws Ewrop, gan gynnwys Albania".
Roedd yr heddlu eisoes wedi datgan amheuaeth bod y llofruddiaeth wedi'i chysylltu â grŵp troseddol â chysylltiadau ag Albania a sawl ardal yn Lloegr.
Ychwanegodd Mr O'Shea: "Fe wnawn ni eich dal yn y pen draw. Byddai'n well i chi ildio'n wirfoddol ac fe gewch eich trin yn deg yn unol â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig."
Mae'r heddlu wedi atafaelu nifer o gerbydau fel rhan o'r ymchwiliad. Ond maen nhw'n dal i geisio dod o hyd i gar Mercedes C200 Sport lliw arian / llwyd gyda'r rhif gofrestr BK09 RBX, sy'n gysylltiedig a'r pedwar dyn y mae'r heddlu'n chwilio amdanyn nhw.
Cafodd y cerbyd ei weld yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y llofruddiaeth. Nid yw'r cerbyd wedi ei weld ers hynny ac mae yn amheuaeth y gall gynnig tystiolaeth allweddol.
Mae £5,000 o wobr ar gynnig, dolen allanol am wybodaeth all arwain at ganfod y Mercedes a Gledis Mehalla.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021