Digwyddiadau peilot torfol Cymru 'ddim yn realistig'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
TafwylFfynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

'Roedd y rheolau ar gael mynd mewn i Tafwyl yn llym,' medd Anwen Jones

Mae yna gwestiynau wedi codi ynglŷn ag effeithlonrwydd digwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru wrth geisio casglu data defnyddiol.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae angen cynnal digwyddiadau sydd â llai o gyfyngiadau na'r hyn sy'n bodoli mewn lleoliadau lletygarwch ar hyn o bryd yng Nghymru ac mae un gwyddonydd yn dweud bod angen i ddigwyddiadau o'r fath fod yn realistig er mwyn dysgu digon.

Ym mis Mai fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o ddigwyddiadau peilot torfol fyddai'n cael eu cynnal yng Nghymru wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.

Ond mae nifer wedi dweud wrth BBC Cymru bod cyfyngiadau'r digwyddiadau yma yn un mor gaeth â rheolau mewn lleoliadau lletygarwch, ac yn eu cymharu gyda digwyddiadau diweddar yn Lerpwl.

Fel rhan o raglen ymchwil digwyddiadau Llywodraeth y DU, roedd hawl gan 3,000 o bobl fynychu digwyddiad clwb nos ar ôl cael dau brawf negyddol a chafodd cyfyngiadau ar bellter cymdeithasol, y rheol chwe pherson a'r angen i wisgo mwgwd eu codi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i fynychwyr dathliadau Eid ymbellhau'n gymdeithasol

Serch hynny mae'r digwyddiadau peilot yng Nghymru gan gynnwys dathliadau Eid, Tafwyl, a gemau pêl-droed ail-gyfle Abertawe a Chasnewydd wedi gofyn i bobl i gadw pellter cymdeithasol, dilyn y rheol chwe pherson a gwisgo mwgwd.

Roedd Anwen Jones ymhlith y rhai aeth i Tafwyl a dywedodd bod y cyfyngiadau yn llym.

"Cyn i ni droi lan," meddai, "roedd disgwyl ein bod wedi 'neud dau brawf Covid, bo ni'n byw yng Nghaerdydd a bod cyfeiriad Caerdydd gyda ni.

"Hefyd roedd rhaid i ni ddangos neges destun ro'n i wedi ei gael gan yr NHS yn cadarnhau bod ein prawf ni'n negyddol.

"Roedd rhaid i ni wisgo mygydau nes bo ni'n cyrraedd y ford a'r rheol oedd bod yn rhaid i chi wisgo mwgwd os yn mynd i'r tŷ bach. Ro'dd stiwardiaid yn monitro popeth i 'neud yn siŵr ein bod yn cadw dwy fetr ar wahân."

'Siomedig fod pethe'n arafach yma'

Ar ôl clywed am y cyfyngiadau sydd mewn grym mewn digwyddiadau peilot mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi cwestiynau am ba mor effeithiol ydyn nhw.

Dywedodd un o aelodau newydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Sam Kurtz: "Mae'r dystiolaeth wyddonol y maen nhw'n ei gasglu yn Lloegr yn well na beth ry'n ni'n 'neud yma yng Nghymru.

"Mae hynny'n siomedig achos mae pob un mo'yn pethe i fynd nôl fel roedden nhw cyn i'r pandemig ddechrau.

"Yn anffodus mae'r ffordd y mae gwleidyddiaeth yng Nghymru yn delio â'r mater ar y funud yn dangos fod pethau bach yn fwy araf yma sydd yn siomedig."

Yr Athro Iain Buchan sy'n gyfrifol am edrych ar ddata y digwyddiadau peilot yn Lerpwl. Fe fuon nhw'n edrych ar enghreifftiau rhyngwladol ar gynnal digwyddiadau yn ystod y pandemig er mwyn dysgu gwersi.

Mae'n dweud ei bod hi'n hollbwysig bod y digwyddiadau yma yn adlewyrchu bywyd go iawn.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio agos gyda rhaglen Ymchwil Digwyddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gweithio'n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a lleoliadau.

Mae nhw'n dweud eu bod mewn cyswllt agos gyda rhaglen Ymchwil Digwyddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a bod yr holl waith yn cynnig gwybodaeth fydd yn eu helpu i gyrraedd penderfyniadau ar ailgynnal digwyddiadau fesul cam mewn ffordd ddiogel yng Nghymru.

Gyda'r cyhoedd a'r diwydiant digwyddiadau yn cadw llygad barcud ar y treialon yma fe fyddan nhw'n gobeithio y bydd gwersi'n cael eu dysgu'n gyflym fel bod digwyddiadau fel yr un yn Lerpwl yn dychwelyd i Gymru mor fuan â phosib.