Geraint Thomas yn drydydd yn y Criterium du Dauphine

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas a Richie PorteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Geraint Thomas a Richie Porte i orffen yn y tri uchaf i Ineos Grenadiers

Mae Geraint Thomas wedi gorffen yn drydydd yn ras y Criterium du Dauphine, a hynny er iddo gael damwain yn ystod y cymal ola' ddydd Sul.

Richie Porte o Awstralia - sydd hefyd yn aelod o dîm Ineos Grenadiers - oedd yn fuddugol yng ngorllewin yr Alpau.

Fe syrthiodd Thomas 7.7 cilomedr o'r llinell derfyn wrth ddod at droad ar y ffordd lawr o'r mynyddoedd.

Llwydodd y Cymro i fynd 'nôl ar ei feic a dal y pac ychydig gilometrau o ddiwedd y cymal.

Mae'r ras yn cael ei gweld fel un pwysig yn y paratoadau ar gyfer y Tour de France, sy'n dechrau yn Llydaw ar 26 Mehefin.

Canlyniad terfynol

1. Richie Porte (Ineos Grenadiers) 29awr 37mun 5eil

2. Alexey Lutsenko (Astana-Premier Tech) +17eil

3. Geraint Thomas (Ineos Grenadiers) +29

4. Wilco Kelderman (Bora-Hansgrohe) +33

5. Jack Haig (Bahrain Victorious) +34

Pynciau cysylltiedig